Archwilio eich Dyfodol gydag Ymestyn yn Ehangach

Mae Ymestyn yn Ehangach yn bartneriaeth rhwng prifysgolion, ysgolion a cholegau yng Nghymru sy’n gweithio gyda’i gilydd i wella symudedd cymdeithasol drwy ehangu mynediad at bob math o addysg uwch.

Nod y rhaglen genedlaethol hon, sy’n cael ei hariannu gan Gyngor Medr, Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, yw cynyddu cyfranogiad addysg uwch ymysg grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli. Bydd yn gwneud hyn drwy godi dyheadau a sgiliau addysgol, a chreu cyfleoedd astudio a llwybrau dysgu arloesol i addysg uwch.

Mae Partneriaethau Ymestyn yn Ehangach yn cynnwys pob sefydliad addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru. Rydyn ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol, cyflogwyr, ysgolion a sefydliadau trydydd sector i wella canlyniadau addysg ein dysgwyr.

"Mae ymweld â champws prifysgol wedi gwneud I mi feddwl am fy nyfodol a fy ngyrfa."

Gwybodaeth am ymestyn yn ehangach

Sefydlwyd y Rhaglen Ymestyn yn Ehangach yn 2002 fel rhaglen gydweithredol, hirdymor ledled Cymru sy’n canolbwyntio ar ranbarthau, ac mae’n ehangu mynediad at addysg uwch a sgiliau lefel uwch.

Nod y rhaglen genedlaethol hon, sy’n cael ei hariannu gan Medr, Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, yw cynyddu cyfranogiad addysg uwch ymysg grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli. Bydd yn gwneud hyn drwy godi dyheadau a sgiliau addysgol, a chreu cyfleoedd astudio a llwybrau dysgu arloesol i addysg uwch.

Dysgwyr

Mae ein cynulleidfaoedd yn cynnwys oedolion, pobl ifanc mewn ysgolion, pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, a gofalwyr.

O fewn dau gwintel isaf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru byddwn yn blaenoriaethu:

  • Pobl anabl
  • Pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn y DU
  • Dysgwyr Cymraeg, gan gynnwys cefnogi dysgu ail iaith a dysgu am ddiwylliannau Cymru

Rydyn ni’n rhoi cymorth i bobl o bob oed yma yn Ymestyn yn Ehangach. Ewch i’r dudalen ar gyfer eich grŵp oedran i gael rhagor o wybodaeth.

Athrawon a chynghorwyr

Cefnogaeth i chi

Rydyn ni’n deall y rôl hanfodol y mae athrawon a chynghorwyr yn ei chwarae o ran cefnogi datblygiad gyrfa uchelgeisiol a mwy o symudedd cymdeithasol, yn enwedig ymysg pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig nad ydynt o bosibl yn gallu cael mynediad at y tiwtora ychwanegol, y gweithgareddau allgyrsiol a’r cyfalaf cymdeithasol sydd ar gael i’w cyfoedion mwy cyfoethog.

Mae Ymestyn yn Ehangach yn cefnogi’r gwaith hwn drwy gynnig nifer o ddigwyddiadau ac adnoddau datblygiad proffesiynol parhaus i athrawon a chynghorwyr, ac amrywiaeth o adnoddau gwybodaeth a digwyddiadau i rieni a gofalwyr.

Rhieni a gwarcheidwad

Mae Ymestyn yn Ehangach yma i roi gwybodaeth i chi am addysg uwch a’ch helpu i gefnogi dewisiadau eich plentyn yn y dyfodol.

Egluro Addysg Uwch

Addysg Uwch yw’r cam nesaf mewn addysg ar ôl i fyfyrwyr gwblhau BTEC, Lefel A neu gymhwyster cyfatebol yn y Coleg neu’r Chweched Dosbarth. Mae modd astudio cwrs Addysg Uwch mewn prifysgol, coleg neu fel rhan o brentisiaeth lefel uwch neu radd.

Tarwch olwg ar yr adran Egluro’r Jargon i weld rhai o’r termau a’r ymadroddion y gallech eu clywed pan fydd pobl yn siarad am addysg uwch. Rydyn ni hefyd wedi casglu ynghyd rhai o’r mythau a’r cysyniadau mwyaf cyffredin am addysg uwch.

Gogledd a Chanolbarth Cymru

Gweithio gyda’n partneriaid I wella symudedd cymdeithasol

Gogledd a Chanolbarth Cymru

Mae Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru yn rhaglen gydweithredol sy’n cael ei harwain gan Brifysgol Bangor mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndŵr a Phrifysgol Aberystwyth

Rhagor o wybodaeth
De Ddwyrain Cymru

Gweithio gyda’n partneriaid I wella symudedd cymdeithasol

De Ddwyrain Cymru

Mae Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach De Ddwyrain Cymru yn rhaglen gydweithredol dan arweiniad timau cyflawni ym Mhrifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd.

Rhagor o wybodaeth
De Orllewin Cymru

Gweithio gyda’n partneriaid I wella symudedd cymdeithasol

De Orllewin Cymru

Mae Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach De Orllewin Cymru yn rhaglen gydweithredol sy’n cael ei harwain gan dimau cyflawni ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Rhagor o wybodaeth