Ôl-16
Wrth astudio TGAU, mae pobl ifanc yn wynebu eu penderfyniad mawr nesaf – beth i’w wneud ar ôl Blwyddyn 11. Mae nifer o opsiynau ar gael i bobl ifanc. Y chweched dosbarth, coleg, prentisiaeth neu fynd i fyd gwaith.
Mae Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach Canolbarth a Gogledd Cymru yn cynnwys Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Coleg Cambria, Coleg Ceredigion, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Grŵp Llandrillo Menai a Grŵp Colegau NPTC.
Mae gennym lu o gyfleoedd i ddysgwyr ôl-16. Mae enghreifftiau o’n prosiectau’n cynnwys treulio 3 diwrnod ym Mhrifysgol Bangor, coleg pêl-droed dros y Pasg, hyfforddi a mentora, cyrsiau cyn-mynediad, digwyddiadau camau nesaf, diwrnodau dysgu i’r teulu a sesiynau sgiliau academaidd. I gael rhagor o wybodaeth neu i gysylltu â ni, anfonwch e-bost at reachingwider@bangor.ac.uk
Mae partneriaeth De Ddwyrain Cymru, sy’n cynnwys timau Ymestyn yn Ehangach ym Mhrifysgol De Cymru, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn cyflwyno rhaglen gyfun i ddysgwyr wedi’u targedu. Nod y rhaglen yw cyflwyno addysg uwch i ysgolion a cholegau drwy’r cynnig Fi yn y Dyfodol a chyflwyno pobl ifanc i addysg uwch drwy’r Rhaglen Llwybrau Llwyddiant.
Mae’r rhaglen yn darparu gweithdai rhyngweithiol a diddorol gydag amrywiaeth o weithgareddau a phrofiadau i ddysgwyr Cyfnod Allweddol 5 / Lefel 3.
I gael gwybod a yw eich ysgol neu’ch coleg yn cael ei dargedu gan Ymestyn yn Ehangach a’r hyn y gallwn ei gynnig, tarwch olwg ar ein manylion cyswllt isod: reachingwider@southwales.ac.uk
Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig y rhaglen Camu Ymlaen i Brifysgol Abertawe fel rhan o’i chynllun Ymestyn yn Ehangach.
Mae’r rhaglen yn gyfres o ddigwyddiadau undydd ac arhosiad byr ym Mhrifysgol Abertawe i fyfyrwyr Blwyddyn 12 sy’n cwblhau blwyddyn gyntaf cymhwyster lefel 3 mewn ysgol neu goleg yn Ne Orllewin Cymru, ac mae’n gyfle iddyn nhw brofi bywyd yn y brifysgol (Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin).
Ar ôl cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, mae myfyrwyr yn gallu hawlio gostyngiad mewn pwyntiau tariff wrth wneud cais am gyrsiau israddedig penodol ym Mhrifysgol Abertawe. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â stepup@swansea.ac.uk
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cynnig rhaglen estynedig o gyfleoedd i fyfyrwyr 16 oed a hŷn gan gynnwys cyfleoedd preswyl, dosbarthiadau meistr, diwrnodau profi a chyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â schoolsandcolleges@uwtsd.ac.uk