Beth yw addysg uwch

Addysg uwch yw’r cymwysterau a’r cyrsiau y gallwch eu dilyn ar ôl troi’n 18 oed.

Mae llawer o wahanol fathau o gymwysterau addysg uwch, fel:

  • diploma
  • gradd baglor
  • gradd sylfaen a blwyddyn sylfaen
  • HTQ
  • prentisiaeth lefel gradd

Dewis Prifysgol

Y cam cyntaf wrth wneud cais i unrhyw brifysgol yw dewis cwrs yr hoffech ei astudio a pha brifysgol yr hoffech fynd iddi. Mae hyn yn hawdd i rai myfyrwyr gan eu bod yn gwybod pa yrfa yr hoffen nhw ei dilyn yn y dyfodol neu ba bwnc y mae ganddyn nhw’r diddordeb mwyaf ynddo. Os ydych chi yn y sefyllfa yma, mae hynny’n grêt. Ond, efallai y bydd y rhan yma o’r broses yn anodd iawn i bobl eraill. Mae’n gallu bod yn anodd iawn gwybod yn union beth yr hoffech chi ei wneud yn y dyfodol ac mae’n hollol iawn teimlo’n ansicr.

Offer Chwilio UCAS

Os ydych ychydig yn ansicr ynghylch yr hyn yr hoffech ei wneud yn y Brifysgol, rydyn ni’n argymell eich bod yn dechrau gydag UCAS, sef Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau.

Mae UCAS Search yn gadael i chi chwilio yn ôl:

  • Cwrs
  • Lefel astudio, dewis israddedig
  • Blwyddyn Mynediad
  • Cod post, mae hyn yn ddewisol ond mae’n arbennig o ddefnyddiol os ydych chi am fynd i brifysgol leol

Adnoddau The Uni Guide

Mae The Uni Guide yn adnodd gwych arall. Mae gan wefan The Uni Guide wybodaeth a chanllawiau a allai eich helpu i ddewis cwrs a sefydliad sy’n addas i chi. Mae ganddyn nhw gyngor defnyddiol yn ogystal â’r adnodd ‘A-level Explorer’ sy’n dangos i chi ble gallai eich pynciau Lefel 3 eich arwain!