Mae’r wefan hon wedi’i gwarchod gan hawlfraint. © 2023 Ymestyn yn Ehangach, oni nodir yn wahanol. Ni chewch gopïo, addasu, dosbarthu, cyhoeddi na darparu cynnwys y wefan ar rwydwaith heb ganiatâd ysgrifenedig Ymestyn yn Ehangach ymlaen llaw. Cedwir pob hawl arall.
Mae croeso i chi sefydlu dolen i’r wefan hon o’ch gwefan chi, ar yr amod bod y cyd-destun yn berthnasol ac nad yw’r ddolen neu’r disgrifiad ohoni’n niweidiol i fusnes Ymestyn yn Ehangach.
Er ein bod wedi cymryd pob gofal i lunio gwybodaeth gywir a diweddaru’r wefan hon, nid yw Ymestyn yn Ehangach yn gwneud unrhyw warant ynghylch cywirdeb na pherthnasedd unrhyw wybodaeth ar y wefan hon ac ni allwn dderbyn atebolrwydd am unrhyw wallau neu hepgoriadau.
Darperir cynnwys y safle hwn er gwybodaeth gyffredinol.
Felly, ni fydd Ymestyn yn Ehangach, ei aelodau, ei gyflenwyr na’i gwmnïau cysylltiedig yn atebol i unrhyw un am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddeillio o ddefnyddio’r wybodaeth sydd yn unrhyw un o’r deunyddiau ar y wefan hon.
Mae’r wefan hon ar gyfer gwylwyr o’r Deyrnas Unedig. Mae’r rheini sy’n dewis defnyddio’r wefan hon o leoliadau eraill yn gyfrifol am gydymffurfio â chyfreithiau lleol.
Mae Ymestyn yn Ehangach wedi cynnwys dolenni perthnasol ar gyfer eich gwybodaeth a’ch hwylustod yn unig. Fodd bynnag, gan nad oes gennym reolaeth dros y cysylltiadau trydydd parti hyn, ni allwn dderbyn cyfrifoldeb dros gynnwys na dibynadwyedd y safleoedd cysylltiedig.
Ystyrir bod y term “Ymestyn yn Ehangach” a ddefnyddir yn yr Ymwadiad Cyfreithiol hwn, ac eithrio lle nodir yn wahanol, yn cynnwys Ymestyn yn Ehangach, ei aelodau a’i gysylltiadau.