De Orllewin Cymru

Nod Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach De Orllewin Cymru yw cynyddu cyfranogiad pobl o grwpiau a chymunedau sy’n cael eu tangynrychioli yn Ne Orllewin Cymru mewn addysg uwch, gan ganolbwyntio’n benodol ar bobl sy’n byw yn 40% isaf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, a gofalwyr.

Rydyn ni’n cael ein hariannu gan Raglen Ymestyn yn Ehangach Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a’n partneriaid yw Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Coleg Sir Gâr, Coleg Gŵyr Abertawe, Grŵp Colegau NPTC, Coleg Sir Benfro, Gyrfa Cymru, awdurdodau lleol ac ysgolion yn Ne Orllewin Cymru.

Drwy gydweithio, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau dysgu a gwella cyrhaeddiad ysbrydoledig ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion wedi’u targedu ar draws De Orllewin Cymru, sy’n creu llwybrau i addysg uwch.

Mae tîm Ymestyn yn Ehangach De Orllewin Cymru wedi’i leoli ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ac mae’n gweithio ledled De Orllewin Cymru, gan flaenoriaethu pobl, ysgolion a sefydliadau mewn ardaloedd amddifadedd economaidd-gymdeithasol uwch.

I gael rhagor o wybodaeth am ein rhaglenni, cysylltwch â ni: