Gogledd a Chanolbarth Cymru

Nod Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru yw cynyddu cyfranogiad pobl o grwpiau a chymunedau sy’n cael eu tangynrychioli yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru mewn addysg uwch, gan ganolbwyntio’n benodol ar bobl sy’n byw yn 40% isaf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, a gofalwyr.

Rydyn ni’n cael ein hariannu gan Raglen Ymestyn yn Ehangach Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a’n partneriaid yw Prifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Wrecsam, Coleg Cambria, Coleg Ceredigion, Coleg Cymraeg Cenedlaethol Grŵp Llandrillo Menai, Grŵp NPTC, Gyrfa Cymru, awdurdodau lleol ac ysgolion yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.

Drwy gydweithio, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau dysgu a gwella cyrhaeddiad ysbrydoledig ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion wedi’u targedu ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru, sy’n creu llwybrau i addysg uwch.

Mae tîm Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru wedi’i leoli ym Mhrifysgol Bangor, ac mae’n gweithio ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru, gan flaenoriaethu pobl, ysgolion a sefydliadau mewn ardaloedd amddifadedd economaidd-gymdeithasol uwch.

I gael rhagor o wybodaeth am ein rhaglenni, cysylltwch â ni.