Tystebau gan athrawon-
Mae bod yn rhan o Brosiect Mentora Ymestyn yn Ehangach wedi bod yn fuddiol iawn i’r disgyblion ac i ni fel ysgol. I’r disgyblion, mae’r prosiect wedi rhoi cyfleoedd newydd i ddatblygu sgiliau, agweddau ac wedi helpu i feithrin eu hyder a’u llwyddiant academaidd. Drwy gydweithio ar brosiectau o’r fath, maen nhw wedi gallu dysgu am eu llwybrau gyrfa a pharatoi ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â rhoi pwrpas a chymhelliant iddyn nhw o ran eu haddysg.
Ar lefel ysgol, mae’r prosiect wedi helpu i godi proffil yr ysgol a dangos ei hymroddiad i ddatblygu disgyblion mewn ffyrdd newydd ac arloesol. Mae’r prosiect hefyd wedi hyrwyddo mwy o gyswllt rhwng y disgyblion, eu hathrawon a’r gymuned ehangach, gan feithrin perthnasoedd cryfach ac ymrwymiad i weithio at nodau cyffredin. Mae’r prosiect wedi helpu i wella presenoldeb a chael agwedd gadarnhaol at addysg, yn ogystal â rhoi ymdeimlad o gydnabyddiaeth a llwyddiant i bawb sy’n ymwneud â’r ysgol.” Athro Cyswllt