Chwalu Mythau

Mae nifer o fythau y gallech eu clywed am y brifysgol, gallai rhai hyd yn oed eich atal rhag gwneud cais i’r brifysgol yn gyfan gwbl. Efallai eich bod yn credu nad oes angen i chi ddechrau meddwl am y brifysgol tan y chweched dosbarth neu’r coleg, ond dydy hyn ddim yn wir. Dydy hi byth yn rhy gynnar i ddechrau meddwl am eich dyfodol a chynllunio ar ei gyfer.

"MAE ANGEN I CHI FOD YN GYFOETHOG I FYND I’R BRIFYSGOL"

Cywir?
Anghywir?

Anghywir!

Er bod costau ffioedd dysgu wrth fynd i’r brifysgol, mae cymorth ar gael. Mae benthyciadau ffioedd dysgu ar gael i dalu ffioedd eich cwrs, ac mae benthyciad cynhaliaeth i’ch helpu gyda’ch costau byw (fel rhent, bwyd a theithio). Edrychwch ar ein graff cyllid myfyrwyr i weld faint o gymorth ariannol y gallech fod â hawl iddo.

"MI FYDD GEN I LAWER O DDYLED"

Cywir?
Anghywir?

Anghywir!

Ar gyfer unrhyw fyfyrwyr newydd, rhaid i chi fod yn ennill cyflog blynyddol o dros £27,295 cyn y bydd angen i chi ddechrau ad-dalu eich benthyciad. Byddech yn talu 9% yn ôl os byddwch yn ennill unrhyw beth dros y swm hwn. Os bydd eich enillion yn gostwng o dan £27,295, bydd yr ad-daliadau’n dod i ben. Ar hyn o bryd, ar ôl 30 mlynedd, mae unrhyw ddyled sydd heb ei thalu yn cael ei dileu ac ni fydd byth yn cael ei throsglwyddo i unrhyw un arall. Edrychwch ar ein graff ad-dalu myfyrwyr i weld sut mae’r ad-daliadau’n gweithio.

"ALLA I GAEL SWYDD HEB RADD"

Cywir?
Anghywir?

Cywir!

Mae’n bosibl cael swydd heb radd. Ond, rhagwelir erbyn y flwyddyn 2022 y bydd angen cymhwyster addysg uwch ar hanner yr holl swyddi. Gall gradd prifysgol gyflymu eich gyrfa ac weithiau gall olygu eich bod yn gallu mynd i mewn i’r farchnad swyddi ar lefel uwch nag eraill sydd heb radd. Gallai hyn olygu cyflog uwch yn syth ar ôl graddio!

"MAE’R BRIFYSGOL FEL YSGOL"

Cywir?
Anghywir?

Anghywir!

Mae addysg uwch yn hollol wahanol i’r ysgol! Byddwch yn astudio pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo a bydd gennych lawer mwy o annibyniaeth nag yn yr ysgol. Mae’r amserlen hefyd yn gwbl wahanol yn y brifysgol – bydd gennych lawer mwy o amser rhydd. Mae hyn yn golygu y gallech gael swydd ran-amser, neu ymgymryd â diddordeb newydd gyda chymdeithas prifysgol. Mae’r brifysgol yn bennod newydd yn eich bywyd ac mae’n gyfle i chi reoli eich dysgu eich hun.

"BYDD Y BRIFYSGOL YN RHY HERIOL I MI"

Cywir?
Anghywir?

Anghywir!

Mae llawer o opsiynau addysg uwch ar gael sy’n addas ar gyfer gwahanol ddulliau dysgu. Gallwch ddewis astudiaeth academaidd yn unig sy’n cynnwys darlithoedd ac arholiadau, cymysgedd yn cynnwys dysgu yn yr ystafell ddosbarth ochr yn ochr â dysgu ymarferol, neu ddysgu drwy waith gydag arsylwadau a phortffolios sy’n ffurfio’r asesiad.

"ALLA I DDIM ENNILL ARIAN YN Y BRIFYSGOL"

Cywir?
Anghywir?

Anghywir!

Mae sawl ffordd o ennill arian yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol. Gallech weithio’n rhan-amser ochr yn ochr â’ch astudiaethau neu weithio’n uniongyrchol i’r brifysgol gan helpu mewn diwrnodau agored yn y brifysgol. Os ydych chi’n astudio ar gyfer gradd-brentisiaeth, byddwch yn cael cyflog wrth i chi wneud hyn.