Dysgwyr

Beth bynnag yw eich oedran, dydy hi byth yn rhy gynnar nac yn rhy hwyr i ddechrau meddwl am yr hyn rydych chi am ei wneud yn y dyfodol.

Cynradd

Syniadau ar gyfer eich dyfodol

Ydych chi’n meddwl tybed beth fyddech chi eisiau ei wneud pan fyddwch chi’n hŷn?

Mae’n well dechrau drwy ofyn i chi’ch hun ‘Beth ydw i’n dda am ei wneud? a ‘Beth ydw i’n mwynhau ei wneud?’

Uwchradd

Mae blwyddyn 7 i 11 yn gyfnod pwysig iawn yn eich bywyd. Mae nawr yn amser gwych i ddechrau arbrofi gyda gwahanol syniadau ac opsiynau gyrfa. Gallwch ddechrau adeiladu dyfodol sy’n gwneud y gorau o’ch sgiliau a’ch diddordebau wrth fanteisio ar ystod anhygoel o gyfleoedd.

Mae’n debyg bod gennych chi lawer o gwestiynau ar hyn o bryd, ac rydyn ni yma i helpu. Gallwch ddefnyddio’r dudalen hon i’ch helpu i gael arweiniad a chyngor ar sut mae concro blwyddyn 7 i 11.

Dewis eich pynciau TGAU

Gall dewis pa bynciau TGAU y byddwch chi’n eu hastudio fod yn benderfyniad heriol, yn enwedig wrth ddewis rhwng amrywiaeth o bynciau a all agor amrywiaeth o ddewisiadau gyrfa.

Beth bynnag y byddwch chi’n ei ddewis, bydd gennych ystod eang o opsiynau o ran gyrfa a phrifysgolion. Ceisiwch roi eich hun yn gyntaf a dewis yr opsiynau gorau i chi, yn hytrach na dewis pwnc oherwydd bod eich ffrind wedi’i ddewis neu i fod gyda’ch hoff athro.

Y Camau Nesaf: Bywyd ar ôl Blwyddyn 11

Yn union fel dewis pynciau TGAU, bydd amser ym Mlwyddyn 11 lle bydd pobl yn dechrau holi beth yw eich camau nesaf a beth rydych chi am ei wneud ar ôl eich TGAU: Coleg, y Chweched Dosbarth neu brentisiaeth? Fel bob amser, mae’n bwysig dewis beth sydd orau i chi ac nid beth mae eich ffrindiau’n ei wneud. Gwnewch rywfaint o ymchwil i yrfa sydd o ddiddordeb i chi ac sy’n eich cyffroi, gan edrych ar y cymwysterau y bydd eu hangen arnoch i ddilyn yr yrfa honno.

ÔL-16

Ddylwn i fynd i Goleg neu Chweched Dosbarth?

Wrth astudio TGAU, mae pobl ifanc yn wynebu eu penderfyniad mawr nesaf – beth i’w wneud ar ôl Blwyddyn 11.

Mynd i’r Chweched Dosbarth yn eu hysgol bresennol:

Efallai eich bod wedi penderfynu’n barod eich bod am aros yn eich ysgol bresennol ac, i rai myfyrwyr, mae hyn yn opsiwn da. Dim ond dwy flynedd yw’r chweched dosbarth ac efallai y bydd yn cymryd ychydig o amser i rai myfyrwyr ymgartrefu mewn amgylchedd newydd. Gallai pryder lle newydd, athrawon nad ydyn nhw’n eu hadnabod, a straen gwneud ffrindiau newydd dynnu eu sylw oddi ar eu hastudiaethau. Mae’n well gan rai amgylchedd cyfarwydd, sy’n caniatáu iddyn nhw ganolbwyntio ar eu hastudiaethau o’r dechrau.

Ond, mae’n bwysig eich bod chi ddim yn gwneud y penderfyniad hwn am mai dyma’r opsiwn hawsaf neu oherwydd bod eich ffrind gorau yn aros. Dyma ffactorau i’w hystyried wrth wneud eich penderfyniad:

  • Canlyniadau – Beth yw canlyniadau’r ysgol ar gyfer y pynciau rydych chi’n bwriadu eu hastudio? Efallai bod Mathemateg yn un o gryfderau eich ysgol, ond os yw eich plentyn am astudio Llenyddiaeth Saesneg a bod yr adran Saesneg yn tanberfformio, yna efallai yr hoffech ystyried opsiynau eraill.
  • Athrawon – Mae’n bwysig cael gwybod pa athrawon fydd yn eich addysgu. Efallai eich bod chi wrth eich bodd â’ch athro bioleg presennol (a dyna pam eich bod wedi penderfynu astudio’r pwnc yn Lefel A), ond efallai y bydd athro gwahanol yn ei addysgu yn y chweched dosbarth. Os ydych chi’n gwybod nad oedd ei arddull addysgu wedi gweithio i chi yn y gorffennol, gallai hyn amharu ar eich perfformiad.
  • Gofynion Mynediad – Beth yw’r gofynion mynediad ar gyfer y chweched dosbarth neu’r coleg, ac a fyddwch chi’n cael lle yno? Mae’n bwysig gwybod yr union raddau sydd eu hangen arnoch i astudio’r pynciau Addysg Uwch o’ch dewis. Os ydych chi ar y ffin, gall fod yn benderfyniad doeth dewis opsiwn wrth gefn; fel bod gennych chi opsiynau i’w hystyried ar ddiwrnod canlyniadau.

Mae hefyd yn syniad da edrych ar ychydig o ddewisiadau eraill, hyd yn oed os yw hynny er mwyn atgyfnerthu eich penderfyniad. Gallwch wneud hyn drwy edrych ar brosbectws chweched dosbarth arall neu fynd i ddiwrnod agored.

Ffactorau i’w hystyried wrth ddewis chweched dosbarth neu goleg

Efallai nad oes chweched dosbarth yn eich ysgol bresennol, neu efallai eich bod chi’n meddwl y byddai’n well dechrau o’r newydd mewn amgylchedd newydd. Dyma agweddau posibl i’w hystyried wrth chwilio am y lle perffaith i chi.

Chweched dosbarth neu’r Coleg

Mae chweched dosbarth yn gysylltiedig ag ysgol, ac mae coleg yn sefydliad sy’n arbenigo mewn addysg bellach yn unig. Er bod y gwasanaethau maen nhw’n eu cynnig mwy neu lai’r un fath, mae ganddyn nhw agweddau gwahanol at y ffordd maen nhw’n cefnogi myfyrwyr, yn academaidd ac yn fugeiliol. Mae pa un sydd fwyaf addas yn dibynnu’n llwyr arnoch chi a pha fath o amgylchedd rydych chi’n teimlo sydd orau i chi yn ystod y cyfnod hwn yn eich bywyd.

Mae colegau fel arfer yn fwy na chweched dosbarth ac mae ganddyn nhw ddull mwy ymarferol o ddysgu. Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i gymryd cyfrifoldeb dros eu haddysg eu hunain ac mae llai o oruchwyliaeth yn aml. Byddai’r amgylchedd hwn yn gweddu orau i fyfyrwyr sy’n mwynhau gweithio’n annibynnol ac yn mwynhau eu rhyddid. Ar ben hynny, gallai’r dull ymarferol y mae colegau’n ei ddefnyddio baratoi myfyrwyr yn well ar gyfer y brifysgol, lle mae’r oriau cyswllt yn fach iawn, ac mae llwyddiant yn dibynnu ar allu’r myfyrwyr i drefnu a chymell eu hunain, a’u gallu i astudio’n annibynnol.

Dydy’r arddull hwn ddim yn addas i bob myfyriwr mor gynnar yn eu taith academaidd. Os oes angen goruchwyliaeth agosach arnoch yn eich astudiaethau a’ch bod fel arfer yn gwneud yn well gyda strwythur cymorth mwy sefydlog o’ch cwmpas, yna efallai y bydd chweched dosbarth yn opsiwn mwy priodol. Yn aml, mae dosbarthiadau chweched yn llai na cholegau, ac mae rhai myfyrwyr yn gwneud yn well yn y lleoliad mwy personol hwn.

Mae’r amgylchedd cymdeithasol yn rhywbeth y dylid ei ystyried wrth ddewis chweched dosbarth neu goleg. Os ydych chi’n berson cymdeithasol ac yn mwynhau gweld wynebau newydd, yna mae’n debygol y bydd amgylchedd coleg yn ddelfrydol. Ar y llaw arall, os ydych chi’n fwy mewnblyg, efallai y byddai amgylchedd llai, mwy personol chweched dosbarth yn well.

Ydy un math o sefydliad yn well na’r llall yn y pen draw? Dim mewn gwirionedd – mae’n dibynnu ar eich cymeriad ac ar yr amodau sydd fwyaf addas i chi.

Oedolion

Ydych chi’n ystyried newid gyrfa neu gyflawni nod gyrfa gydol oes?

Dydy hi byth yn rhy hwyr i ddechrau gwireddu eich breuddwydion o ran gyrfa.

Gofalwyr Ifanc A Phobl Ifanc Sydd  Phrofiad O Ofal

Mae grwpiau blaenoriaeth Ymestyn yn Ehangach yn bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a phobl ifanc sydd â chyfrifoldebau gofalu. Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd dysgu pwrpasol, ochr yn ochr â modelau rôl perthnasol i gyflwyno’r rhaglenni cywir ar yr adeg iawn a gwella llwybrau dilyniant i Addysg Uwch.

Adnoddau

Mae ein hadnoddau ar-lein yn cynnwys amrywiaeth eang o ddeunyddiau rhad ac am ddim ar gyfer ein holl gynulleidfaoedd targed