Ar Ôl Y Brifysgol
Ar ôl i chi orffen yn y brifysgol, gall yr elfen ad-dalu swnio ychydig yn gymhleth, ond rydyn ni yma i helpu. Mae’r cyfan yn dibynnu ar faint rydych chi’n ei ennill, ac nid faint rydych chi wedi’i fenthyg.
Ar hyn o bryd, fyddwch chi ddim yn talu unrhyw beth yn ôl nes byddwch yn ennill £26,575 fel cyflog blynyddol. Byddwch yn talu 9% yn ôl os byddwch yn ennill unrhyw beth dros y swm hwn. Os bydd eich enillion yn gostwng o dan £26,575, bydd yr ad-daliadau’n dod i ben.
Os byddwch yn ennill digon i ddechrau ad-dalu eich benthyciad myfyriwr, bydd y swm yn cael ei ddidynnu o’ch cyflog misol yn awtomatig. Does dim byd y mae angen i chi ei wneud i drefnu hyn.
Ar hyn o bryd, ar ôl 30 mlynedd, mae unrhyw ddyled sydd heb ei thalu yn cael ei dileu ac ni fydd byth yn cael ei throsglwyddo i unrhyw un arall.
Edrychwch ar Save the Student i gael rhagor o wybodaeth fanwl am ad-dalu eich benthyciadau.