Rhieni a gwarcheidwad
Mae helpu eich plentyn neu rywun rydych chi’n gofalu amdano i benderfynu ar y llwybr iawn ar ei gyfer yn gallu bod yn eithaf brawychus. Ond, mae llawer o adnoddau ar gael i’ch helpu gyda hynny.
Yn syml, mae addysg uwch yn golygu’r addysg neu’r hyfforddiant y byddwch yn ei ddilyn ar ôl gadael yr ysgol neu’r coleg chweched dosbarth, fel arfer mewn prifysgol. Fel arfer, mae’n cynnwys astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig. Ond, mae’n gallu cynnwys ystod o gymwysterau eraill hefyd.
Mae pobl yn aml yn drysu rhwng addysg uwch ac addysg bellach, ond maen nhw’n wahanol. Mae addysg bellach yn cwmpasu pob cymhwyster sy’n is na gradd, a gyflawnir ar ôl TGAU. Mae lefel A yn enghraifft o addysg bellach. Ond, mae addysg uwch yn dod ar ôl hyn.
Gan fod y farchnad swyddi wedi newid dros amser, mae gan lawer o broffesiynau bellach ofyniad sylfaenol o gymhwyster lefel gradd (ee nyrsio, y gyfraith, addysg).
Drwy ennill cymhwyster Addysg Uwch, gall eich plentyn wella ei ragolygon gyrfa a’i enillion posibl. Oeddech chi’n gwybod bod graddedigion ar gyfartaledd yn ennill £10,000 yn fwy na phobl heb radd?
Mae Addysg Uwch yn fwy na chymhwyster, mae myfyrwyr hefyd yn ennill sgiliau trosglwyddadwy sy’n eu gwneud yn fwy deniadol i gyflogwyr. Gall myfyrwyr ddatblygu sgiliau rheoli amser, trefnu, annibyniaeth, rheoli cyllideb, hyder a datrys problemau.
Mae mynd i’r brifysgol hefyd yn gyfle perffaith i fyfyrwyr astudio rhywbeth maen nhw wir yn ei fwynhau, cwrdd â phobl newydd ac ehangu eu gorwelion. Gall myfyrwyr fod yn fentrus a rhoi cynnig ar rywbeth newydd drwy ymuno â chlybiau a chymdeithasau. Gallan nhw hefyd ennill profiadau bywyd hanfodol megis dysgu coginio, talu biliau a byw oddi cartref; mae’r brifysgol yn gam perffaith at fod yn oedolyn.
Un o’r pryderon mwyaf i rieni a gofalwyr yw cost prifysgol. Isod, mae dadansoddiad o’r hyn y mae angen i chi ei wybod am ffioedd, cyllid ac ad-daliadau.
Mae pob myfyriwr yn y DU o bosibl yn gymwys i gael dau fenthyciad: Benthyciad Ffioedd Dysgu, a fydd yn talu am gost eich cwrs israddedig cyntaf, a Benthyciad Cynhaliaeth, sy’n gallu cefnogi eich costau byw. Mae’r ddau fenthyciad yn cael eu darparu gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.
Mae eich benthyciad cynhaliaeth yn cael ei gyfrifo ar sail ble rydych yn bwriadu astudio ac mae’r swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref.
Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol iawn i rieni a phartneriaid
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael ysgoloriaeth neu fwrsari. Rydyn ni’n argymell eich bod yn ymchwilio i’r brifysgol o’ch dewis i weld pa gymorth ariannol sydd ar gael i chi.
Mae prifysgolion yn cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsarïau yn seiliedig ar feini prawf gwahanol.
Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd corfforol/meddyliol, efallai y gall Cyllid Myfyrwyr Cymru ddarparu cyllid ychwanegol i’ch cefnogi
Os ydych chi’n ofalwr ifanc, ac os oes gennych chi blant, neu unrhyw un y mae’n rhaid i chi ei gefnogi’n ariannol, efallai y gall Cyllid Myfyrwyr Cymru eich helpu.
Wrth ystyried eich camau nesaf mewn addysg, boed yn brifysgol neu’n brentisiaeth, efallai y bydd pobl yn dechrau defnyddio geiriau ac ymadroddion nad ydych chi’n eu deall. Rydyn ni wedi creu adnodd Egluro’r Jargon i’ch helpu i ddod yn fwy cyfarwydd â rhai geiriau cyffredin.
Mae nifer o fythau y gallech eu clywed am y brifysgol, gallai rhai hyd yn oed eich atal rhag gwneud cais i’r brifysgol yn gyfan gwbl.
Efallai eich bod yn credu nad oes angen i chi ddechrau meddwl am y brifysgol tan y chweched dosbarth neu’r coleg, ond dydy hyn ddim yn wir. Dydy hi byth yn rhy gynnar i ddechrau meddwl am eich dyfodol a chynllunio ar ei gyfer.