Gwybodaeth Am Ymestyn Yn Ehangach

Sefydlwyd y Rhaglen Ymestyn yn Ehangach yn 2002 fel rhaglen gydweithredol, hirdymor ledled Cymru sy’n canolbwyntio ar ranbarthau, i ehangu mynediad at addysg uwch a sgiliau lefel uwch.
‍
Nod y rhaglen genedlaethol hon, sy’n cael ei hariannu gan Medr, Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, yw cynyddu cyfranogiad addysg uwch ymysg grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli. Bydd yn gwneud hyn drwy godi dyheadau a sgiliau addysgol, a chreu cyfleoedd astudio arloesol a llwybrau dysgu i addysg uwch.

Ein hamcanion

1

Gwybod

Datblygu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth myfyrwyr o fanteision addysg (uwch) a chyflogaeth i raddedigion, a meithrin eu huchelgais wrth wneud hynny.

2

Dewis

Datblygu gallu myfyrwyr i wneud dewisiadau gwybodus a phenderfyniadau ystyrlon er mwyn llywio cyfnodau pontio allweddol drwy gydol addysg orfodol, i addysg ôl-orfodol a chyflogaeth.

3

Datblygu

Datblygu hyder a gwytnwch myfyrwyr i fynd i’r afael â heriau bywyd ysgol, coleg, bywyd prifysgol a chynnydd graddedigion.

4

Ymarfer

Datblygu sgiliau astudio myfyrwyr a’u gallu o ran cyrhaeddiad academaidd a chynnydd llwyddiannus.

5

Deall

Datblygu dealltwriaeth myfyrwyr drwy roi gwybodaeth am y pwnc mewn cyd-destun.

Gogledd a Chanolbarth Cymru

Gweithio gyda’n partneriaid I wella symudedd cymdeithasol

Gogledd a Chanolbarth Cymru

Mae Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru yn rhaglen gydweithredol sy’n cael ei harwain gan Brifysgol Bangor mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndŵr a Phrifysgol Aberystwyth

Rhagor o wybodaeth
De Ddwyrain Cymru

Gweithio gyda’n partneriaid I wella symudedd cymdeithasol

De Ddwyrain Cymru

Mae Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach De Ddwyrain Cymru yn rhaglen gydweithredol dan arweiniad timau cyflawni ym Mhrifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd.

Rhagor o wybodaeth
De Orllewin Cymru

Gweithio gyda’n partneriaid I wella symudedd cymdeithasol

De Orllewin Cymru

Mae Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach De Orllewin Cymru yn rhaglen gydweithredol sy’n cael ei harwain gan dimau cyflawni ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Rhagor o wybodaeth