Pam cael eich mentora?

  • Cymorth i lywio drwy opsiynau ôl-16 ac ôl-18.
  • Datblygu gwell dealltwriaeth o lwybrau i sectorau sydd o ddiddordeb i chi.
  • Cymorth i oresgyn rhwystrau i Addysg Bellach/Addysg Uwch a phrentisiaethau
  • Meithrin sgiliau cyflogadwyedd, fel cyfathrebu, hyder a rheoli amser.
  • Cael mantais gystadleuol drwy gael arweiniad gan fyfyrwyr presennol.
  • Edrych ar lwybrau addysg uwch sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd o’ch dewis.
  • Cyngor diduedd a phwrpasol am ddim ar nodau gyrfa yn y dyfodol.
  • Cymorth i ysgrifennu CVs, llythyrau eglurhaol a cheisiadau.

Tystebau gan unigolion sydd wedi cael eu mentora –

“Mae fy hyder academaidd wedi gwella’n sylweddol drwy fod yn rhan o’r prosiect mentora. Diolch am y cyfle i ddod i adnabod fy mentor. Rydyn ni wedi meithrin perthynas agos ac rydw i’n teimlo’n gyfforddus i ofyn unrhyw gwestiynau ac i fod yn onest am bethau sy’n fy mhoeni. Mae’r cyfleoedd sydd ar gael drwy’r prosiect yn wych ac maen nhw wedi fy helpu i wneud penderfyniadau ar gyfer fy nyfodol yr oeddwn wedi’u hystyried yn y gorffennol. Dwi’n teimlo’n fwy hyderus i wneud penderfyniadau am addysg bellach. Diolch i’r holl staff a’r ysgol am y profiad.” – unigolyn a oedd yn cael ei fentora

“Mae’r rhaglen fentora yn ddefnyddiol iawn i mi! Mae fy mentor wedi bod yn amyneddgar iawn ac yn help mawr, yn enwedig wrth esbonio cyllid myfyrwyr (sydd wedi helpu i leihau fy straen am fforddio prifysgol!) a sut i ymchwilio i fy holl opsiynau.” – unigolyn a oedd yn cael ei fentora

“Does gen i ddim byd ond canmoliaeth i’r tîm yng nghynllun mentora ymestyn yn ehangach. Mae’r cyfle hwn wedi fy helpu mewn cymaint o ffyrdd. Nid yn unig fy mentor anhygoel sydd wedi fy helpu’n fawr gyda phryderon ac ymholiadau cyffredinol am y brifysgol ond hefyd drwy dalu i mi ymweld â phrifysgol bosibl.  Dyma’r ymweliad mwyaf defnyddiol o’m holl ymweliadau ac wrth i’r cynllun ehangach fy helpu’n ariannol, llwyddais i sicrhau fy mod yn canolbwyntio’n llwyr ar wneud y penderfyniad iawn ar gyfer fy nyfodol. Alla i ddim diolch digon i’r tîm. Maen nhw wedi bod yn help mawr a mor hyfryd drwy gydol y broses. Dwi mor hapus fy mod i wedi penderfynu ymuno!” – unigolyn a oedd yn cael ei fentora