Adborth gan fentor
“Roedd Prosiect Mentora Ymestyn yn Ehangach yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol. Roedd y tîm cymorth ar gael drwy gydol y broses gyfan, a oedd yn golygu fy mod yn gwybod beth i’w wneud pe bai gen i unrhyw gwestiynau, a chawsom lawer o sesiynau hyfforddi hefyd i roi arweiniad i ni ar sut i fentora. Fe wnes i fagu hyder drwy’r prosiect, gan nad oeddwn i erioed wedi gwneud cynllun mentora fel hwn o’r blaen. Fe wnaeth yr hyder hwn fy ngalluogi i wneud cais i weithio mewn gwersyll haf yn America, gan fy mod i’n teimlo ei fod wedi rhoi sgiliau a phrofiad defnyddiol i mi o arwain pobl ifanc.” – Mentor
“Rydw i wir wedi mwynhau fy mhrofiad fel mentor gyda thîm Ymestyn yn Ehangach. Mae wedi bod yn fraint gweithio gydag unigolion mor frwdfrydig a galluog. Drwy bob cylch, mae’n anhygoel gweld y disgyblion yn magu hyder ac yn gweithio at eu nodau personol. Mae cael y cyfle i gefnogi unigolion dros gyfnod estynedig o amser, a thrwy heriau fel arholiadau, yn gyfle gwerth chweil. Byddwn yn ei argymell i holl fyfyrwyr y Brifysgol fel ffordd o wella eich sgiliau cyfathrebu. Mae hefyd yn gyfle i fyfyrio ar eich amser mewn addysg a meddwl am ffyrdd y byddech wedi addasu eich profiadau eich hun.” – Mentor
“Roeddwn yn cael ymdeimlad o bwrpas a boddhad wrth ateb cwestiynau’r unigolyn roeddwn i’n ei fentora. Dwi’n gobeithio bod hyn wedi gwella ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth o addysg uwch, a’i fod yn gallu gwneud dewis gwybodus am y brifysgol.” – Mentor