Gofalwyr a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal

Mae Grwpiau Blaenoriaeth Ymestyn yn Ehangach yn bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a phobl ifanc sydd â chyfrifoldebau gofalu. Ein nod yw gweithio gydag awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau trydydd sector i ymgysylltu â gofalwyr ifanc a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a fydd yn elwa fwyaf o’n rhaglenni.

Gweithgareddau

Ein nod yw cyflwyno’r ‘rhaglenni cywir ar yr adeg gywir’ i wella llwybrau dilyniant i Addysg Uwch. Rydyn ni’n gweithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid yn y trydydd sector i ganfod ac ymgysylltu â disgyblion a fydd yn elwa fwyaf o’n rhaglenni.

I gael gwybod mwy am y rhaglenni sy’n cael eu cynnig yn eich ardal, tarwch olwg ar dudalennau’r Partneriaethau Rhanbarthol:

Gogledd a Chanolbarth Cymru

Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi myfyrwyr sy’n ofalwyr ifanc neu fyfyrwyr sydd â phrofiad o ofal i gyflawni eu dyheadau o ran addysg a gwaith.

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o raglenni:

  • Gweithdai
  • Rhaglenni STEM
  • Diwrnodau i gael blas ar bontio i addysg bellach ac addysg uwch
  • ‘Blas ar fywyd prifysgol’ Young Carers Residential

Cynhelir digwyddiad 3 diwrnod ‘Young Carers Residential’ ym Mhrifysgol Bangor, lle mae’r cyfranogwyr yn cael blas go iawn ar fywyd prifysgol, fel:

  • Bywyd ar y campws
  • Cymryd rhan mewn gweithdai academaidd
  • Cwrdd â gofalwyr ifanc eraill
  • Siarad â staff addysgu a staff cefnogi Prifysgol Bangor, a myfyrwyr presennol
  • Aros dros nos mewn neuaddau myfyrwyr
  • Cael mynediad at sgyrsiau sy’n benodol i’r pwnc
  • Mwynhau sesiynau academaidd pwrpasol
  • Ymuno â sesiynau llesiant rhyngweithiol
  • Cael gwybod am y cymorth ariannol a’r gefnogaeth eang sydd ar gael i ofalwyr ifanc mewn Addysg Uwch
De Ddwyrain Cymru

Ein hymrwymiad I ofalwyr

Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl staff yn ymwybodol o Ofalwyr Ifanc a’r problemau maen nhw’n eu hwynebu, yn enwedig yr effaith y gall cyfrifoldebau gofalu ei chael ar eu haddysg. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu ysbrydoledig sy’n ceisio helpu i fynd i’r afael â’r rhwystrau a’r heriau o ran cael mynediad at Addysg Uwch a llwyddo. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod gofalwyr yn cael eu gwerthfawrogi, bod pobl yn gwrando arnyn nhw, eu bod yn cael llais, a’u bod yn cael eu cefnogi yn ein sefydliad.

Ein prif raglen ar gyfer gofalwyr a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yw Dysgu eich Ffordd: Codi Ymwybyddiaeth o Addysg Uwch a Chymorth Pontio. Amcanion y rhaglen:

  • Cyflwyno Addysg Uwch i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a phobl ifanc sy’n ofalwyr.
  • Cyflwyno modelau rôl perthnasol sydd â phrofiadau tebyg i rannu eu straeon.
  • Darparu profiadau sy’n gwella eu dealltwriaeth o addysg uwch a sut y gallai effeithio ar eu bywydau.
  • Normaleiddio addysg uwch fel llwybr posibl, a meithrin hyder ac ymdeimlad o berthyn.
  • Dangos y gefnogaeth sydd ar gael (a) i fynd i’r Brifysgol a (b) ar ôl cyrraedd yno.
  • Mae’r rhaglen yn cael ei chefnogi gan weminarau ar bynciau fel y daith i addysg uwch a’r gefnogaeth mae addysg uwch yn ei rhoi i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, a phobl ifanc sydd â chyfrifoldebau gofalu. I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, cliciwch yma: cynnwys e-lyfryn

neu cysylltwch â ni:
reachingwider@southwales.ac.uk
reachingwider@cardiff.ac.uk
reachingwider@cardiffmet.ac.uk

De Orllewin Cymru

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau ymgysylltu i ofalwyr ifanc a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae’r rhain yn gallu cynnwys:

  • Ymweliadau wedi’u teilwra â phrifysgolion
  • Gweithdai i gael blas ar bynciau
  • Ysgolion preswyl byr dros yr haf
  • Gweithdai llesiant
  • Cymorth a mentora un-i-un.

“Mae mynd i’r brifysgol wedi gwella pethau i mi ac mae wedi gwneud i mi deimlo fy mod i’n gallu cael dyfodol gwell. Mae wedi gwneud i mi deimlo’n dda amdana i fy hun. Dwi’n teimlo’n gyfforddus yn y Brifysgol”. Person ifanc

“Mae’r adborth gan ein pobl ifanc bob amser yn gadarnhaol ac mae manteision y profiad yn amlwg. Maen nhw bob amser eisiau mynd yn ôl” LACES Abertawe

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth: reachingwider@swansea.ac.uk