Egluro’r jargon

Wrth ystyried eich camau nesaf mewn addysg, boed yn brifysgol neu’n brentisiaeth, efallai y bydd pobl yn dechrau defnyddio geiriau ac ymadroddion nad ydych chi’n eu deall. Rydyn ni wedi creu adnodd Egluro’r Jargon i’ch helpu i ddod yn fwy cyfarwydd â geiriau ac ymadroddion cyffredin.

Prifysgol
Mae prifysgol yn rhywle i bobl astudio gradd, neu gymhwyster addysg uwch arall. Mae 9 prifysgol yng Nghymru, dros 150 o brifysgolion yn y DU a dros 240 o golegau yn cynnig cyrsiau addysg uwch.
Cwrs Mynediad
Mae cwrs mynediad yn gwrs sy’n cefnogi dysgwyr aeddfed yn ôl i addysg. Dydy hi byth yn rhy hwyr i fynd i’r brifysgol.
Bwrsari
Yn wahanol i fenthyciad, mae bwrsari'n gymorth ariannol a ddarperir gan brifysgol neu goleg a does dim angen ei dalu'n ôl. Mae fel arfer yn cynnwys prawf modd ar gyfer aelwydydd incwm is.
Campws
Tir, adeiladau a chyfleusterau prifysgol neu goleg.
Gradd
Dyma’r cymhwyster a ddyfernir i fyfyrwyr ar ôl llwyddo i gwblhau cwrs astudio Addysg Uwch. Efallai eich bod wedi gweld pobl gyda byrfoddau ar ôl eu henw. Mae’r byrfoddau hyn yn cael eu dyfarnu yn dibynnu ar y math o radd – BA Baglor yn y Celfyddydau, BSc Baglor yn y Celfyddydau, BEng Baglor mewn Peirianneg, BEd Baglor mewn Addysg.
Gofynion Mynediad
Mae gofynion mynediad yn golygu’r amodau y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn cael lle i astudio. Yn aml, mae’r rhain yn gyfuniad o ofynion, er enghraifft cymhwyster, pwnc neu radd benodol sy’n berthnasol i’r cwrs rydych yn gwneud cais amdano.
Y Glas
Dyma’r term sy’n cael ei ddefnyddio i gyfeirio at fyfyrwyr addysg uwch newydd.
Ffliw’r Glas
Pan fydd llawer o bobl o bob cwr o'r wlad yn cyrraedd yn yr un lle, mae’n gyffredin i fyfyrwyr newydd gael symptomau tebyg i'r ffliw.
Blwyddyn i Ffwrdd
Blwyddyn i ffwrdd o addysg ar ôl astudio Lefel A a chyn mynd i’r brifysgol. Mae llawer o bobl yn defnyddio’r amser i deithio neu i gael profiad gwaith perthnasol yn y maes pwnc o’u dewis.
Myfyriwr Graddedig
Person sydd wedi llwyddo i gwblhau gradd.
Neuaddau Preswyl
Os ydych yn astudio oddi cartref, byddwch yn byw mewn neuaddau preswyl yn eich blwyddyn gyntaf. Mae’r rhan fwyaf o neuaddau preswyl yn cynnwys fflatiau gydag ystafelloedd gwely preifat a mannau byw i’w rhannu, fel y gegin.
Addysg Uwch
Addysg Uwch yw’r cam nesaf mewn addysg ar ôl i fyfyrwyr gwblhau BTEC, Lefel A neu gymhwyster cyfatebol yn y Coleg neu’r Chweched Dosbarth. Gallwch astudio cwrs Addysg Uwch mewn prifysgol, coleg neu fel rhan o brentisiaeth lefel uwch neu radd. Wrth gwblhau Addysg Uwch, bydd myfyrwyr yn gweithio at gyflawni Gradd Anrhydedd Israddedig, Gradd Sylfaen, Tystysgrif BTEC Broffesiynol neu Radd-brentisiaeth. Cyfeirir at y rhain hefyd fel cymwysterau Lefel 4 (neu uwch).
Modiwl
Uned astudio o fewn gradd sy'n edrych ar faes neu bwnc penodol.
Darlith
Dull addysgu yn y brifysgol. Dosbarthiadau mawr mewn ystafell gyda seddi mewn haenau, a darlithydd yn siarad yn y blaen wrth i chi wneud nodiadau.
Diwrnod Agored
Diwrnod lle gallwch ymweld â’r brifysgol a chael profiad uniongyrchol ohoni, cwrdd â staff, ymweld â chyfleusterau addysgu ac edrych ar lety myfyrwyr. Hefyd, mae Diwrnodau Ymweld ychwanegol i Ymgeiswyr a Diwrnodau Ymweld i Ddeiliaid Cynnig y gallwch eu mynychu ar ôl gwneud cais neu ar ôl cael cynnig.
Prosbectws
Llyfryn wedi’i argraffu neu lyfryn ar-lein sy’n hysbysebu prifysgol neu goleg a’u cyrsiau.
Myfyriwr ôl-raddedig
Myfyriwr sydd wedi cwblhau gradd israddedig ac sy’n astudio gradd uwch, fel Gradd Meistr neu PhD.
Cwrs Rhyngosod
Rhaglenni gradd sy’n cynnwys rhywfaint o amser yn gweithio mewn diwydiant cysylltiedig neu’n astudio dramor.
Semester
Y tymor addysgu yn y Brifysgol. Yn yr un modd â thymhorau ysgol, mae 3 semester prifysgol fel arfer.
Seminar
Dosbarth yn y brifysgol lle mae grŵp llai yn trafod pwnc penodol.
Benthyciad Myfyrwyr
Dyma’r benthyciad i dalu eich ffioedd a'ch costau byw. Yn wahanol i grant, bydd yn rhaid ei dalu'n ôl ond dim ond pan fyddwch yn ennill mwy na swm penodol.
Ffioedd Dysgu
Mae ffioedd dysgu yn talu am gost eich astudiaethau a gallan nhw amrywio yn dibynnu ar eich cwrs a ble rydych yn astudio.
Tiwtorialau
Cyfarfodydd unigol neu mewn grwpiau llai gydag aelod o staff.
UCAS
Mae ‘Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau’ neu UCAS yn gyfrifol am brosesu ceisiadau am gyrsiau mewn prifysgolion yn y DU. Mae’r broses ymgeisio (gan gynnwys dewisiadau a datganiadau personol) i gyd ar-lein yn www.ucas.com
Proses Addasu UCAS / UCAS Adjustment
Os ydych yn bodloni neu'n rhagori ar eich dewis cyntaf, mae’n bosibl newid y brifysgol rydych yn bwriadu astudio ynddi.
Proses Glirio UCAS / UCAS Clearing
Dyma sut mae prifysgolion a cholegau yn llenwi unrhyw leoedd gwag sydd ganddyn nhw ar eu cyrsiau. Rydych yn dod o hyd i gyrsiau sydd â lleoedd gwag ac yn cysylltu â’r prifysgolion neu’r colegau’n uniongyrchol i weld a fyddan nhw’n cynnig lle i chi.
Proses Gohirio Mynediad UCAS / UCAS Deferred Entry
Gwneud cais am gwrs ac yna cymryd blwyddyn allan cyn mynd i’r brifysgol.
Pwyntiau Tariff UCAS / UCAS Tariff Points
Mae pwyntiau tariff UCAS yn trosi eich cymwysterau a’ch graddau yn werth rhifol. Mae gan lawer o gymwysterau (ond nid pob un) werth tariff UCAS, a fydd yn amrywio yn ôl maint y cymhwyster, a’r radd a gawsoch.
UCAS Extra
Os ydych chi wedi defnyddio pob un o'ch pum dewis ar eich cais gwreiddiol ond ddim wedi cael cynnig, gallwch ychwanegu dewis arall gan ddefnyddio Extra rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf.
Cynigion UCAS / UCAS Offers
Mae cynnig amodol yn golygu bod angen i chi fodloni’r gofynion o hyd (ee canlyniadau arholiadau). Mae cynnig diamod yn golygu bod gennych le, er efallai y bydd ychydig o bethau i'w trefnu o hyd. Mae rhai prifysgolion yn gwneud cynigion cyd-destunol i fyfyrwyr y gallai eu hamgylchiadau personol fod wedi cyfyngu ar eu llwyddiant yn yr ysgol neu'r coleg. Mae'r cynigion hyn yn aml yn un radd yn is na’r gofynion mynediad.
Datganiad Personol UCAS
Dyma’r adran ar eich ffurflen gais UCAS lle gallwch ddweud wrth brifysgolion a cholegau pa mor addas ydych chi ar gyfer y cwrs/cyrsiau rydych yn gobeithio eu hastudio. Dim ond un datganiad sydd gennych ar gyfer pob un o’ch dewisiadau.
Myfyriwr Israddedig
Myfyriwr sy’n astudio ei radd gyntaf ar hyn o bryd.