Hysbysiad Preifatrwydd Cenedlaethol Ymestyn yn Ehangach

Pwrpas yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw eich helpu i ddeall pam mae Ymestyn yn Ehangach yn gofyn am eich data personol, sut rydym yn defnyddio eich data, ein rhwymedigaethau o dan y gyfraith a’ch hawliau.

Dim ond yn unol â’r hysbysiad preifatrwydd hwn y bydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei phrosesu, ac yn unol â’r rhwymedigaethau a nodir yn Neddf Diogelu Data 2018 (DPA), Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) a deddfwriaeth gysylltiedig.

Mae Ymestyn yn Ehangach yn cynnwys tair partneriaeth ar wahân. Bydd rheolwyr eich data yn dibynnu ar y bartneriaeth yr ydych yn ymgysylltu â hi:

  • Gogledd a Chanolbarth Cymru – Prifysgol Bangor yw’r rheolydd. Mae sefydliadau addysgol eraill yn rhanbarth Gogledd Cymru yn prosesu’r data ar ran Prifysgol Bangor.
  • De-ddwyrain Cymru – mae Prifysgol De Cymru, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd yn igyd-reolwyr.
  • De-orllewin Cymru – Prifysgol Abertawe yw’r rheolydd. Mae sefydliadau addysgol eraill yn rhanbarth De Orllewin Cymru yn prosesu’r data ar ran Prifysgol Abertawe.

¹Cyd-reolwyr – mae hyn yn golygu bod y prifysgolion hyn yn gyd-gyfrifol am bennu pwrpas a dulliau prosesu’r data personol. Mae gan bob partneriaeth gytundeb sy’n nodi rolau a chyfrifoldebau’r sefydliadau.

Pa wybodaeth mae Ymestyn yn Ehangach yn ei gasglu am gyfranogwyr?

Mae’n bosib y byddwn yn casglu’r holl ddarnau canlynol o wybodaeth ar gyfer yr holl gyfranogwyr sy’n cymryd rhan yn ein gweithgareddau, mae hyn yn helpu Ymestyn yn Ehangach i ddangos bod ein gweithgareddau’n ymgysylltu â phobl ifanc o gefndiroedd sydd wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd ym maes Addysg Uwch. Mae’n bosib y bydd gwybodaeth a nodir gan * yn cael ei rannu â thrydydd parti ar gyfer olrhain taith addysgol y cyfranogwr a/neu ddibenion ymchwil gan gynnwys Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (UCAS).

  • Enw*
  • Dyddiad geni*
  • Rhyw*
  • Cyfeiriad cartref a chod post*
  • Rhif Unigryw’r Dysgwr*
  • Ysgol / Coleg / Sefydliad*
  • Lefel uchaf o addysg (oedolion yn unig)
  • Os aeth rhiant/rhieni neu frawd neu chwaer y cyfranogwr i Brifysgol. (Nid yw darparu’r wybodaeth hon yn
    hanfodol ond mae’n caniatáu i Ymestyn yn Ehangach adrodd ar nifer y cyfranogwyr a allai fod y cyntaf yn eu teulu i fynd i’r brifysgol) A oes gan y cyfranogwr brofiad o fod yn y system ofal (Nid yw darparu’r wybodaeth hon yn hanfodol ond mae’n caniatáu Ymestyn yn Ehangach i adrodd ar grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol a rhoi mynediad â blaenoriaeth i rai digwyddiadau)
  • Yn ystod digwyddiadau mae’n bosib y bydd staff Ymestyn yn Ehangach neu drydydd parti dan gontract gan Ymestyn yn Ehangach yn tynnu a chyhoeddi lluniau (gyda chydsyniad) i’w defnyddio at ddibenion marchnata megis ar ein gwefan, yn ein cylchlythyr neu ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
  • Os byddai cyfranogwyr / rhiant / gwarcheidwad yn dymuno derbyn gohebiaeth farchnata gan Ymestyn yn Ehangach am weithgareddau perthnasol eraill.
  • Dewis iaith
  • A yw’r cyfranogwr yn ofalwr i aelod o’r teulu neu ddibynnydd
  • A yw’r cyfranogwr yn cael prydau ysgol am ddim neu Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA)
  • Anabledd¹
  • Ethnigrwydd¹

¹Ni fydd gwybodaeth ar Anabledd ac Ethnigrwydd yn cael ei rannu gyda thrydydd parti ond bydd yn cael ei defnyddio i hysbysu’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar gyfer monitro cydraddoldeb

Mae Ymestyn yn Ehangach hefyd angen gwybodaeth orfodol ychwanegol fel y gall staff Ymestyn yn Ehangach a thrydydd parti sy’n darparu ar ran Ymestyn yn Ehangach ddarparu cymorth priodol a sicrhau iechyd a diogelwch yr holl gyfranogwyr a staff. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gwybodaeth anabledd
  • Manylion cyswllt brys
  • Gofynion dietegol
  • Gofynion diwylliannol
  • Alergeddau
  • Trefniadau meddygol
  • Meddyginiaeth a gymerir
  • Caniatâd rhieni i roi paracetamol i’r sawl dan 16 pe bydd yr angen yn codi

Yn flynyddol, mae Partneriaeth Dde Ddwyrain Cymru yn derbyn rhywfaint o wybodaeth am bob disgybl mewn grŵp blwyddyn yn uniongyrchol gan ysgolion sy’n cymryd rhan, cyn trefnu gweithgareddau. Mae hyn at ddibenion gwerthuso, monitro, ymchwil er budd y cyhoedd a threfnu gweithgareddau – gweler ‘pam mae Ymestyn yn Ehangach yn casglu’r wybodaeth hon’. Rhennir y wybodaeth o dan delerau Cytundeb Datgelu Data sy’n dangos bod y partneriaid wedi ystyried gofynion y ddeddfwriaeth diogelu data. Dylai eich ysgol fod wedi dweud wrthych os ydynt wedi ymrwymo i’r cytundeb hwn a byddwch yn gallu optio allan drwy gysylltu â’r ysgol.

Pa wybodaeth mae Ymestyn yn Ehangach yn ei gasglu am athrawon / cysylltiadau eraill?

Trwy ffurflen ar-lein ar wefan Ymestyn yn Ehangach, rydym yn casglu’r darnau canlynol o wybodaeth gan athrawon a chysylltiadau eraill sy’n dymuno gwybod am weithgareddau Ymestyn yn Ehangach; ynghyd â derbyn y cylchlythyr a chyfleoedd perthnasol eraill ar gyfer eu hysgol/coleg.

  • Manylion cyswllt
  • Maes pwnc
  • Swydd yn yr ysgol/coleg
  • Cyfrifoldeb dysgu ar gyfer pa grwpiau blwyddyn
  • Dewis iaith
  • Ysgol / Coleg

Pam mae Ymestyn yn Ehangach yn casglu’r wybodaeth hon?

Mae Ymestyn yn Ehangach yn casglu gwybodaeth ar unigolion am y pum rheswm canlynol.

  1. At ddibenion monitro, sy’n caniatáu i Ymestyn yn Ehangach:
    • cyflawni gofynion adrodd allanol gorfodol i gyrff rheoleiddio fel Medr (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil).
    • ddarparu darlun clir o’r gweithgareddau rydym yn eu cyflwyno a’r bobl rydym yn gweithio gyda hwy.
    • sicrhau ein bod yn cyrraedd y sawl a allai buddio fwyaf o weithgareddau allgymorth.
  2. At ddibenion ymchwil a gwerthuso sy’n ein helpu i asesu effeithiolrwydd gwahanol fentrau ar ehangu mynediad at Addysg Uwch. Mae hyn yn cynnwys olrhain taith addysg cyfranogwyr yn ddienw dros yr hir dymor, er mwyn adnabod faint o gyfranogwyr Ymestyn yn Ehangach sy’n mynd ymlaen i astudio yn y brifysgol.
  3. Er mwyn adnabod cyfranogwyr sy’n perthyn i grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli mewn Addysg Uwch a sicrhau bod pobl o’r grwpiau hyn yn cael blaenoriaeth o ran mynediad at weithgareddau Ymestyn yn Ehangach. Am ragor o wybodaeth am hyn gweler y wybodaeth ar wefan Medr.
  4. Er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch a llesiant yr holl gyfranogwyr yn ein rhaglenni a chynorthwyo gydag anghenion bugeiliol a lles e.e. sicrhau ein bod yn ymwybodol o gyflyrau meddygol ac anableddau.
  5. Er mwyn anfon gwybodaeth berthnasol ac angenrheidiol yn ymwneud â gweithgareddau sydd ar y gweill ynghyd â gohebiaeth marchnata.

Beth yw’r sail gyfreithiol dros brosesu’r data?

Mae ehangu cyfranogiad yn elfen allweddol o bolisi addysg Llywodraeth Cymru a chaiff ei gynrychioli yng nghenhadaeth ddinesig y tair prifysgol arweiniol. Mae Ymestyn yn Ehangach yn prosesu data personol yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd ac ar gyfer ei swyddogaethau swyddogol.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu data categori arbennig (megis ethnigrwydd) yw ar y sail ei fod er budd sylweddol y cyhoedd a’i fod yn angenrheidiol at ddibenion ystadegol i fonitro cyfle cyfartal yn unol â’r Ddeddf

Cydraddoldeb. Mae’r prosesu hwn yn angenrheidiol at ddibenion nodi neu adolygu bodolaeth neu ddiffyg cyfle cyfartal neu driniaeth gyfartal rhwng grwpiau o bobl a nodir mewn perthynas â’r categori hwnnw gyda golwg ar alluogi hybu neu gynnal cydraddoldeb o’r fath.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu data categori arbennig ar gyfer gweithgareddau preswyl a thu allan i oriau ysgol (megis data iechyd) yw ar y sail ei fod er budd sylweddol y cyhoedd a’i fod yn angenrheidiol ar gyfer diogelu plant neu unigolion sydd mewn perygl neu ddarparu cymorth i unigolion â chyflwr iechyd neu anabledd penodol.

Y sail gyfreithiol ar gyfer tynnu a defnyddio ffotograffau at ddibenion hyrwyddo ac anfon deunydd marchnata mewn perthynas â gweithgareddau sydd i ddod yw ‘cydsyniad’. Gofynnir i rieni/gwarcheidwaid/gofalwyr yr holl gyfranogwyr 16 oed ac iau a ydynt yn cydsynio i dynnu llun neu ffilmio eu plentyn am resymau cyhoeddusrwydd (megis cylchlythyrau, gwefan, cyfryngau cymdeithasol). Yn ystod digwyddiad, bydd plant y mae eu rhieni wedi cydsynio i’r defnydd hwn o ddata yn cael cyfle i optio allan.

Mae’n bosibl y byddwn yn dibynnu ar y sail gyfreithiol ‘Buddiannau Dilys’ ar gyfer y gweithgareddau prosesu canlynol sy’n ymwneud â’r fenter hon:

  • Trosglwyddiadau gweinyddol angenrheidiol rhwng partneriaid SAU a enwyd
  • Defnyddio ffotograffau o oedolion sy’n cymryd rhan at ddibenion hyrwyddo a marchnata, lle bo hynny’n
    unol â’u disgwyliadau a lle mae’r effaith ar breifatrwydd yn gyfyngedig.
  • Dangos defnydd priodol o arian cyhoeddus gan mai’r data personol sy’n cadarnhau cymhwysedd unigolyn yn
    erbyn meini prawf Ymestyn yn Ehangach.

Y buddiannau dilys a nodir yw – sicrhau bod pob cynulleidfa gymwys yn elwa o ddarpariaeth Ymestyn yn Ehangach a bod y data personol yn gallu llifo rhwng y partneriaid i gyflawni’r amcan hwn, yn ogystal â hyrwyddo’r Cynllun Ehangu Cyfranogiad sydd o fudd i gyfranogwyr a’r prifysgolion.

Sut bydd Ymestyn yn Ehangach yn prosesu’r data a gyda phwy y gellid ei rannu?

Ar gyfer mentrau a drefnir yn uniongyrchol gydag ysgolion a cholegau, bydd ffurflenni gwybodaeth cyfranogwyr a dogfennaeth esboniadol naill ai’n cael eu hanfon i’r ysgol/coleg i’w darparu i’r cyfranogwr neu’r rhiant fel y bo’n briodol neu eu llenwi yn ystod y gweithgaredd. Gall plant 13 oed a hŷn weithiau lenwi’r ffurflenni eu hunain yn ystod y gweithgaredd, yn dibynnu ar y bartneriaeth rydych yn ymgysylltu â hi. Mae’r ffurflen yn casglu gwybodaeth am y cyfranogwr ac yn gofyn am ganiatâd i brosesu gwybodaeth at ddibenion marchnata. Dychwelir y ffurflen at aelod perthnasol o staff Ymestyn yn Ehangach.

Gall yr aelod o staff Ymestyn yn Ehangach ddefnyddio’r wybodaeth yma i greu cofrestr ddiogel o fynychwyr, a fydd yn cael ei storio ar weinydd diogel y brifysgol. Mae mynediad i’r wybodaeth hon wedi’i gyfyngu i aelodau o staff Ymestyn yn Ehangach a rhennir gwybodaeth berthnasol gyda’r trydydd parti llogi sydd wedi’u contractio i ddarparu gweithgareddau.

Nesaf, mae’r wybodaeth am gyfranogwyr yn cael ei gwirio’n weledol a’i throsglwyddo o’r papur neu’r e- ffurflenni i gronfa ddata ar-lein ddiogel y gall staff Ymestyn yn Ehangach o fewn y bartneriaeth berthnasol ei chyrchu.

Bydd sefydliadau sy’n prosesu data personol ar ran Ymestyn yn Ehangach yn rhwymedig i Gytundeb Prosesu Data a fydd yn amlinellu’u rhwymedigaeth i brosesu data personol yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.

At ddibenion monitro ac ymchwil, gellir rhannu data personol cyfranogwyr gyda’r prifysgolion a’r colegau partner.

Rhannir data gyda Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (UCAS) er mwyn galluogi olrhain taith addysg cyfranogwyr i mewn i Addysg Uwch yn ddienw dros yr hir dymor.

Am ba hyd fydd Ymestyn yn Ehangach yn cadw’r wybodaeth?

Bydd Ymestyn yn Ehangach yn cadw data cyfranogwyr yn unol ag Amserlen Gadw Ymestyn yn Ehangach.

Yn gryno: bydd copïau papur o wybodaeth yn cael eu dinistrio’n ddiogel ar ôl iddynt gael eu sganio i’r gronfa ddata electronig ddiogel. Cedwir cofnodion electronig ar gronfa ddata ddiogel ar-lein am gyfnod o hyd at 15 mlynedd ar ôl digwyddiad.

Bydd data a rennir / sy’n gysylltiedig â thrydydd parti at ddibenion ymchwil yn cael eu cadw mewn fformat dienw, sy’n golygu nad yw unigolion bellach yn adnabyddadwy.

Beth yw fy hawliau?

Mae gennych yr hawl i gael mynediad at eich data personol, i wrthod prosesu’ch gwybodaeth bersonol, i gywiro, dileu, cyfyngu ar a mynd â’ch gwybodaeth bersonol. Nid yw rhai o’r hawliau hyn yn absoliwt a dim ond dan amodau penodol y maent yn berthnasol. Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar gael ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

Mae gennych hawl i dynnu caniatâd yn ôl unrhyw bryd a gallwch wneud hynny drwy gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data neu Reolwr Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach ar gyfer y bartneriaeth yr ydych yn ymgysylltu â hi:

Ar gyfer De-ddwyrain Cymru, dylid gwneud unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau yn ysgrifenedig i Swyddog Diogelu Data Prifysgol De Cymru: –

Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol
Prifysgol De Cymru
Pontypridd
CF37 1DL
E-bost: dataprotection@southwales.ac.uk

Ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru, dylid gwneud unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau yn ysgrifenedig i Swyddog Diogelu Data Prifysgol Bangor:

Swyddog Diogelu Data
Swyddfa’r Is-Ganghellor
Gwasanaethau Corfforaethol
Ffordd y Coleg
Bangor
LL57 2DG
E-bost : info-compliance@bangor.ac.uk

Ar gyfer De-orllewin Cymru, dylid gwneud unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau yn ysgrifenedig i Swyddog Diogelu Data Prifysgol Abertawe:

Rheolwr Cydymffurfiaeth Gwybodaeth
Swyddfa’r Is-Ganghellor
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
E-bost: dataprotection@swansea.ac.uk

Diogelwch data

Mae deddfwriaeth diogelu data yn gofyn bod Ymestyn yn Ehangach yn cadw’ch gwybodaeth yn ddiogel. Golyga hynny y bydd eich cyfrinachedd yn cael ei barchu ac y bydd mesurau priodol yn cael eu cymryd i atal mynediad neu ddatgeliad anawdurdodedig. Aelodau o staff sydd angen mynediad at rannau perthnasol o’ch gwybodaeth bydd yr unig rai â chaniatâd i wneud hynny. Bydd unrhyw ddata personol a gedwir ar ffurf electronig yn destun cyfrinair a chyfyngiadau diogelwch eraill, tra bydd ffeiliau papur yn cael eu cadw mewn mannau diogel gyda mynediad rheoledig.

Sut alla’i gwyno?

Os ydych yn anfodlon gyda sut y proseswyd eich data personol, gallwch gysylltu â’r brifysgol arweiniol berthnasol yn y lle cyntaf, gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a ddarparwyd uchod.

Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, mae gennych yr hawl i wneud cais yn uniongyrchol i’r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth,
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
www.ico.org.uk