Mentora Cenedlaethol
Rhaglen Fentora Ymestyn yn Ehangach.
Mae’r rhaglen fentora yn rhoi cymorth un-i-un ar-lein i bobl ifanc rhwng 14 a 19 oed sydd mewn addysg. Mae’r dysgwyr yn cael eu paru â mentor sy’n astudio mewn prifysgol neu goleg yng Nghymru. Mae mentoriaid yn rhoi cyngor ac arweiniad ar fywyd ar ôl ysgol, gan gynnwys llwybrau addysg fel coleg, prifysgol a phrentisiaethau. Mae’r unigolion yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau astudio a’u technegau adolygu, ac ymchwilio i lwybrau gyrfa. Mae’r rhaglen fentora yn grymuso dysgwyr i wneud dewisiadau gwybodus.
Sut mae’n gweithio?
Cysylltu Meddyliau Disglair
Mae’r rhaglen fentora yn defnyddio llwyfan Brightside i ddod o hyd i fentoriaid addas ar gyfer yr unigolion. Gall yr unigolion a fydd yn cael eu mentora ddewis o blith y pum mentor sy’n cael eu hargymell gan ddefnyddio holiadur paru, gan eu grymuso i ddewis mentor. Bydd y mentoriaid yn rhannu profiadau personol ac yn rhoi cyngor ar yrfaoedd ac addysg. Mae pynciau wythnosol, fel cyllid, sgiliau astudio, a chyfweliadau, yn helpu’r mentoriaid a’r rhai sy’n cael eu mentora i ddatblygu sgiliau perthnasol.
- Mae’r rhai sy’n cael eu mentora yn cael mynediad at amrywiaeth o adnoddau Bright Knowledge, sy’n rhoi sylw i yrfaoedd, addysg a bywyd myfyrwyr, gan eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus.
- Mae mentoriaid yn cael cefnogaeth barhaus a hyfforddiant ychwanegol, gan gynnwys sesiynau ar weithio gydag unigolion sydd â phrofiad o ofal, bod yn fentor effeithiol ac annog ymgysylltiad.