Oedolion

Nod rhaglen Dysgu Oedolion Ymestyn yn Ehangach yw codi dyheadau addysgol oedolion cymwys ledled Cymru. Mae llawer o fyfyrwyr yn defnyddio rhaglen Dysgu Oedolion Ymestyn yn Ehangach fel llwybr i astudio ar lefel israddedig.

Gweithgareddau

Mae ein rhaglenni wedi’u llunio i baratoi dysgwyr yn academaidd ac yn emosiynol ar gyfer astudiaethau pellach.

Mae addysg uwch neu ddysgu pellach yn agored i bawb – beth bynnag fo’ch oedran. Bob blwyddyn, mae miloedd o oedolion yn manteisio ar y cyfle i ddatblygu eu hunain a’u gyrfaoedd drwy addysg uwch neu addysg bellach. Mae oedolion yn cyfrif am oddeutu chwarter yr holl ymgeiswyr israddedig llawn amser.

I gael gwybod mwy am y rhaglenni sy’n cael eu cynnig yn eich ardal, tarwch olwg ar dudalennau’r Partneriaethau Rhanbarthol.

Gogledd a Chanolbarth Cymru

Rydyn ni’n cefnogi dysgwyr i feithrin eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u hyder, er mwyn cynyddu’r tebygolrwydd o’r dysgwyr yn pontio’n llwyddiannus i gam nesaf eu taith addysg.

Nod ein rhaglenni yw ysbrydoli dysgwyr, cynyddu eu cymhelliant, eu cadw mewn addysg a’u cefnogi i bontio i addysg uwch a thu hwnt. Byddwn yn cyflawni hyn drwy amrywiaeth o weithgareddau fel diwrnodau blasu, ymweliadau addysgol, sgiliau cyflogadwyedd a gweithgareddau codi dyheadau, a sgyrsiau gan fodelau rôl ysbrydoledig sy’n rhoi mewnwelediad i yrfaoedd a llwybrau addysgol.

De Ddwyrain Cymru

Mae’r rhaglen wedi’i llunio o amgylch anghenion ein dysgwyr ac mae’n gynnig cyfannol mewn dwy ran; Fi yn y Dyfodol a Llwybrau. Mae dwy elfen y rhaglen yn cyfuno i feithrin hyder a gwytnwch dysgwyr i lywio heriau bywyd prifysgol, drwy fynd i’r afael â’r rhwystrau o ran mynediad, cynnydd a llwyddiant mewn addysg uwch sy’n wynebu pobl o ardaloedd lle mae cyfraddau cyfranogiad prifysgol yn isel.

Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan diwtoriaid ymroddedig sydd â phrofiad o weithio gyda myfyrwyr o amrywiaeth o gefndiroedd, ac sydd â phrofiadau dysgu gwahanol, ac mae’n cael ei chynnal ar wahanol adegau o’r dydd i ddiwallu anghenion ein cynulleidfaoedd. I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, cliciwch yma: cynnwys e-lyfryn

neu cysylltwch â ni:
reachingwider@southwales.ac.uk
Ar gyfer Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful
reachingwider@cardiff.ac.uk
Ar gyfer Casnewydd, Blaenau Gwent a Chaerffili
reachingwider@cardiffmet.ac.uk
Ar gyfer Dinas a Sir Caerdydd

De Orllewin Cymru

Rydyn ni’n gweithio gyda phrifysgolion, colegau, ysgolion a phartneriaid cymunedol ledled De Orllewin Cymru i ddarparu cyfleoedd dysgu a datblygu ysbrydoledig i oedolion a theuluoedd a all fod yn gam at addysg bellach ac uwch. Dyma’r gweithgareddau:

  • Gweithdai Dysgu Oedolion mewn Lleoliadau Cymunedol
  • Gweithdai Dysgu fel Teulu gan gynnwys celf a chrefft, gwyddoniaeth uwch, Cymraeg i rieni
  • Cyrsiau magu hyder a ‘Camau Nesaf’ ar-lein ac yn y gymuned
  • Cyrsiau Cyflwyno Byr mewn amrywiaeth o bynciau

‘Diolch o galon am heddiw. Mae bod yn rhan o hyn wedi bod yn gyfle anhygoel… ac mae mor rymusol’ – Dysgwr sy’n Oedolyn

‘Mae’r cwrs a’r hyfforddwyr yn anhygoel… rydw i wedi dysgu llawer ganddyn nhw’ – Dysgwr sy’n Oedolyn

‘Mae cyrsiau magu hyder Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach wedi bod yn gam at adferiad i’r menywod sydd wedi’u mynychu. Mae’r cyrsiau wedi eu galluogi i gredu ynddyn nhw eu hunain a theimlo bod ganddyn nhw’r gallu a’r sgiliau i symud ymlaen i astudiaethau pellach a chyflogaeth.’ Gweithiwr Cymorth i Fenywod Abertawe

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at reachingwider@swansea.ac.uk