Cynradd
Mae ein rhaglen flaengar a pharhaus sydd wedi’i gwerthuso yn cynnig dysgu unigryw, cyfleoedd i feithrin sgiliau a phrofiadau o addysg uwch. Mae’n galluogi dysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ac mae’n agor llwybrau i addysg bellach ac addysg uwch.
Mae’r rhaglen ymyrraeth yma’n cyfrannu at y Pedwar Diben ac mae wedi’i chysylltu â’r Meysydd Dysgu a Phrofiad. Drwy gydol y rhaglen ymyrraeth bydd pobl ifanc yn cael cyfleoedd i wneud y canlynol:
- meithrin gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o addysg uwch.
- edrych arnyn nhw eu hunain, ystyried cyfleoedd, ac ehangu eu gorwelion.
Mae’r rhaglen yn ategu darpariaeth ysgolion ac mae’n cael ei chyflwyno mewn partneriaeth ag ysgolion, sefydliadau addysg uwch a phartneriaid allweddol eraill lle bo hynny’n briodol