Mentora Cenedlaethol

Rhaglen Fentora Ymestyn yn Ehangach.

Mae’r rhaglen fentora yn rhoi cymorth un-i-un ar-lein i bobl ifanc rhwng 14 a 19 oed sydd mewn addysg. Mae’r dysgwyr yn cael eu paru â mentor sy’n astudio mewn prifysgol neu goleg yng Nghymru.  Mae mentoriaid yn rhoi cyngor ac arweiniad ar fywyd ar ôl ysgol, gan gynnwys llwybrau addysg fel coleg, prifysgol a phrentisiaethau. Mae’r unigolion yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau astudio a’u technegau adolygu, ac ymchwilio i lwybrau gyrfa. Mae’r rhaglen fentora yn grymuso dysgwyr i wneud dewisiadau gwybodus.

Sut mae’n gweithio?

Cysylltu Meddyliau Disglair

Mae’r rhaglen fentora yn defnyddio llwyfan Brightside i ddod o hyd i fentoriaid addas ar gyfer yr unigolion. Gall yr unigolion a fydd yn cael eu mentora ddewis o blith y pum mentor sy’n cael eu hargymell gan ddefnyddio holiadur paru, gan eu grymuso i ddewis mentor. Bydd y mentoriaid yn rhannu profiadau personol ac yn rhoi cyngor ar yrfaoedd ac addysg. Mae pynciau wythnosol, fel cyllid, sgiliau astudio, a chyfweliadau, yn helpu’r mentoriaid a’r rhai sy’n cael eu mentora i ddatblygu sgiliau perthnasol.

  • Mae’r rhai sy’n cael eu mentora yn cael mynediad at amrywiaeth o adnoddau Bright Knowledge, sy’n rhoi sylw i yrfaoedd, addysg a bywyd myfyrwyr, gan eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus.
  • Mae mentoriaid yn cael cefnogaeth barhaus a hyfforddiant ychwanegol, gan gynnwys sesiynau ar weithio gydag unigolion sydd â phrofiad o ofal, bod yn fentor effeithiol ac annog ymgysylltiad.

 

Beth mae ein rhaglen fentora yn ei gynnwys?

  • Rydyn ni’n defnyddio llwyfan Brightside i gysylltu’r unigolion sy’n cael eu mentora â mentoriaid addas sy’n gallu eu helpu drwy ddefnyddio eu profiadau personol a rhoi cyngor ar yrfaoedd a rhagolygon addysg.
  • Mae unigolion yn cael eu paru â mentoriaid drwy lwyfan Brightside.
  • Mae’r rhai sy’n cael eu mentora yn cael arweiniad pwrpasol a gwybodaeth am addysg a gyrfaoedd sydd o ddiddordeb iddyn nhw.
  • Cefnogaeth i nodi eu sgiliau trosglwyddadwy.
  • Cymorth gyda sgiliau a thechnegau astudio.
  • Grymuso pobl ifanc i wneud dewisiadau gwybodus.
Prosiect Mentora Ar-lein Cenedlaethol

Nod: Cefnogi pobl ifanc o grwpiau targed Ymestyn yn Ehangach i gael mynediad at Addysg Bellach, Addysg Uwch a Phrentisiaethau.

Hyd: Prosiect 10-12 wythnos

Wedi’i anelu at: Disgyblion blwyddyn 11 i flwyddyn 13 neu fyfyrwyr sy’n astudio cymhwyster cyfatebol mewn sefydliad Addysg Bellach

Cynnwys y Prosiect:

  • Cymorth mentora un-i-un a roddir gan fyfyriwr presennol sy’n astudio gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn sefydliad Addysg Bellach neu Addysg Uwch yng Nghymru.
  • Cyrsiau dwyieithog am ddim bob wythnos, gan gynnwys sgiliau astudio, ceisiadau a llesiant.
  • Cydnabod yr ymdrech i ymgysylltu drwy dystysgrifau a gwobrau.
  • Adnoddau i gefnogi ymweliadau â Diwrnodau Agored.
  • Mynediad 24/7 at y Padlet Mentora gyda gwybodaeth, dolenni defnyddiol a chanllawiau.
  • Cefnogaeth wyneb-yn-wyneb ac ar-lein gan Dîm Mentora Ymestyn yn Ehangach.
Prosiect Mentora Ar-lein STEM

Nod:  Cefnogi dysgwyr i gael mynediad at brentisiaethau, addysg bellach ac addysg uwch, gan ganolbwyntio’n benodol ar dargedu pynciau STEM a gyrfaoedd yn y dyfodol.

Hyd: Prosiect 8 wythnos

Wedi’i anelu at: Disgyblion blwyddyn 9 a 10

Cynnwys y Prosiect:

  • Mentora un-i-un gan fyfyriwr addysg bellach/addysg uwch sy’n astudio gradd STEM neu gymhwyster cyfatebol ar hyn o bryd.
  • Mynediad at ddosbarthiadau meistr wedi’u recordio ymlaen llaw gan arbenigwyr pwnc.
  • Sesiwn ‘Cwrdd â’r Arbenigwr’ yn yr ysgol gydag arbenigwr yn y diwydiant.
  • Ymweld â diwydiant STEM lleol.
  • Cydnabod yr ymdrech i ymgysylltu drwy dystysgrifau a gwobrau.
  • Cefnogaeth wyneb-yn-wyneb ac ar-lein gan Dîm Mentora Ymestyn yn Ehangach.
Prosiect Mentora Ar-lein Gofalwyr Ifanc

Nod:  Cefnogi gofalwyr ifanc i gael mynediad at Brentisiaethau, addysg bellach ac addysg uwch.

Hyd: Prosiect 6 wythnos

Wedi’i anelu at: Gofalwyr Ifanc rhwng 14 a 25 oed

Cynnwys y Prosiect:

  • Mentora un-i-un gan fyfyriwr addysg bellach/addysg uwch cyfredol sydd â phrofiad o ofalu.
  • Cyrsiau ar-lein am ddim bob wythnos i ofalwyr ifanc sy’n rhoi sylw i yrfaoedd, llesiant a chyllid.
  • Cydnabod yr ymdrech i ymgysylltu drwy dystysgrifau a gwobrau.
  • Cefnogaeth wyneb-yn-wyneb ac ar-lein gan Dîm Mentora Ymestyn yn Ehangach.