Pam Ddylai Fy Mhlentyn Fynd I’r Brifysgol?
Ydy eich plentyn neu rywun rydych chi’n gofalu amdano yn meddwl mynd i’r brifysgol? Efallai ei fod yn gwybod yn union pa yrfa mae’n dymuno ei chael ac angen gradd i gyrraedd yno, neu efallai ei fod yn ehangu ei orwelion cyn dewis swydd.
Y naill ffordd neu’r llall, mae astudio mewn prifysgol yn benderfyniad mawr ac mae’n wahanol i ddysgu yn yr ysgol neu’r coleg. Mae’n normal poeni am eich plentyn pan fydd yn gwneud dewisiadau mor fawr ond mae’n ddefnyddiol cael rhagor o wybodaeth am brifysgolion a’r hyn maen nhw’n ei wneud.