Pwrpas yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw eich helpu i ddeall pam mae Ymestyn yn Ehangach yn gofyn am eich data personol, sut rydym yn defnyddio eich data, ein rhwymedigaethau o dan y gyfraith a’ch hawliau.
Dim ond yn unol â’r hysbysiad preifatrwydd hwn y bydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei phrosesu, ac yn unol â’r rhwymedigaethau a nodir yn Neddf Diogelu Data 2018 (DPA), Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) a deddfwriaeth gysylltiedig.
Mae Ymestyn yn Ehangach yn cynnwys tair partneriaeth ar wahân. Bydd rheolwyr eich data yn dibynnu ar y bartneriaeth yr ydych yn ymgysylltu â hi:
¹Cyd-reolwyr – mae hyn yn golygu bod y prifysgolion hyn yn gyd-gyfrifol am bennu pwrpas a dulliau prosesu’r data personol. Mae gan bob partneriaeth gytundeb sy’n nodi rolau a chyfrifoldebau’r sefydliadau.
Mae’n bosib y byddwn yn casglu’r holl ddarnau canlynol o wybodaeth ar gyfer yr holl gyfranogwyr sy’n cymryd rhan yn ein gweithgareddau, mae hyn yn helpu Ymestyn yn Ehangach i ddangos bod ein gweithgareddau’n ymgysylltu â phobl ifanc o gefndiroedd sydd wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd ym maes Addysg Uwch. Mae’n bosib y bydd gwybodaeth a nodir gan * yn cael ei rannu â thrydydd parti ar gyfer olrhain taith addysgol y cyfranogwr a/neu ddibenion ymchwil gan gynnwys Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (UCAS).
¹Ni fydd gwybodaeth ar Anabledd ac Ethnigrwydd yn cael ei rannu gyda thrydydd parti ond bydd yn cael ei defnyddio i hysbysu’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar gyfer monitro cydraddoldeb
Mae Ymestyn yn Ehangach hefyd angen gwybodaeth orfodol ychwanegol fel y gall staff Ymestyn yn Ehangach a thrydydd parti sy’n darparu ar ran Ymestyn yn Ehangach ddarparu cymorth priodol a sicrhau iechyd a diogelwch yr holl gyfranogwyr a staff. Mae’r rhain yn cynnwys:
Yn flynyddol, mae Partneriaeth Dde Ddwyrain Cymru yn derbyn rhywfaint o wybodaeth am bob disgybl mewn grŵp blwyddyn yn uniongyrchol gan ysgolion sy’n cymryd rhan, cyn trefnu gweithgareddau. Mae hyn at ddibenion gwerthuso, monitro, ymchwil er budd y cyhoedd a threfnu gweithgareddau – gweler ‘pam mae Ymestyn yn Ehangach yn casglu’r wybodaeth hon’. Rhennir y wybodaeth o dan delerau Cytundeb Datgelu Data sy’n dangos bod y partneriaid wedi ystyried gofynion y ddeddfwriaeth diogelu data. Dylai eich ysgol fod wedi dweud wrthych os ydynt wedi ymrwymo i’r cytundeb hwn a byddwch yn gallu optio allan drwy gysylltu â’r ysgol.
Trwy ffurflen ar-lein ar wefan Ymestyn yn Ehangach, rydym yn casglu’r darnau canlynol o wybodaeth gan athrawon a chysylltiadau eraill sy’n dymuno gwybod am weithgareddau Ymestyn yn Ehangach; ynghyd â derbyn y cylchlythyr a chyfleoedd perthnasol eraill ar gyfer eu hysgol/coleg.
Mae Ymestyn yn Ehangach yn casglu gwybodaeth ar unigolion am y pum rheswm canlynol.
Mae ehangu cyfranogiad yn elfen allweddol o bolisi addysg Llywodraeth Cymru a chaiff ei gynrychioli yng nghenhadaeth ddinesig y tair prifysgol arweiniol. Mae Ymestyn yn Ehangach yn prosesu data personol yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd ac ar gyfer ei swyddogaethau swyddogol.
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu data categori arbennig (megis ethnigrwydd) yw ar y sail ei fod er budd sylweddol y cyhoedd a’i fod yn angenrheidiol at ddibenion ystadegol i fonitro cyfle cyfartal yn unol â’r Ddeddf
Cydraddoldeb. Mae’r prosesu hwn yn angenrheidiol at ddibenion nodi neu adolygu bodolaeth neu ddiffyg cyfle cyfartal neu driniaeth gyfartal rhwng grwpiau o bobl a nodir mewn perthynas â’r categori hwnnw gyda golwg ar alluogi hybu neu gynnal cydraddoldeb o’r fath.
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu data categori arbennig ar gyfer gweithgareddau preswyl a thu allan i oriau ysgol (megis data iechyd) yw ar y sail ei fod er budd sylweddol y cyhoedd a’i fod yn angenrheidiol ar gyfer diogelu plant neu unigolion sydd mewn perygl neu ddarparu cymorth i unigolion â chyflwr iechyd neu anabledd penodol.
Y sail gyfreithiol ar gyfer tynnu a defnyddio ffotograffau at ddibenion hyrwyddo ac anfon deunydd marchnata mewn perthynas â gweithgareddau sydd i ddod yw ‘cydsyniad’. Gofynnir i rieni/gwarcheidwaid/gofalwyr yr holl gyfranogwyr 16 oed ac iau a ydynt yn cydsynio i dynnu llun neu ffilmio eu plentyn am resymau cyhoeddusrwydd (megis cylchlythyrau, gwefan, cyfryngau cymdeithasol). Yn ystod digwyddiad, bydd plant y mae eu rhieni wedi cydsynio i’r defnydd hwn o ddata yn cael cyfle i optio allan.
Mae’n bosibl y byddwn yn dibynnu ar y sail gyfreithiol ‘Buddiannau Dilys’ ar gyfer y gweithgareddau prosesu canlynol sy’n ymwneud â’r fenter hon:
Y buddiannau dilys a nodir yw – sicrhau bod pob cynulleidfa gymwys yn elwa o ddarpariaeth Ymestyn yn Ehangach a bod y data personol yn gallu llifo rhwng y partneriaid i gyflawni’r amcan hwn, yn ogystal â hyrwyddo’r Cynllun Ehangu Cyfranogiad sydd o fudd i gyfranogwyr a’r prifysgolion.
Ar gyfer mentrau a drefnir yn uniongyrchol gydag ysgolion a cholegau, bydd ffurflenni gwybodaeth cyfranogwyr a dogfennaeth esboniadol naill ai’n cael eu hanfon i’r ysgol/coleg i’w darparu i’r cyfranogwr neu’r rhiant fel y bo’n briodol neu eu llenwi yn ystod y gweithgaredd. Gall plant 13 oed a hŷn weithiau lenwi’r ffurflenni eu hunain yn ystod y gweithgaredd, yn dibynnu ar y bartneriaeth rydych yn ymgysylltu â hi. Mae’r ffurflen yn casglu gwybodaeth am y cyfranogwr ac yn gofyn am ganiatâd i brosesu gwybodaeth at ddibenion marchnata. Dychwelir y ffurflen at aelod perthnasol o staff Ymestyn yn Ehangach.
Gall yr aelod o staff Ymestyn yn Ehangach ddefnyddio’r wybodaeth yma i greu cofrestr ddiogel o fynychwyr, a fydd yn cael ei storio ar weinydd diogel y brifysgol. Mae mynediad i’r wybodaeth hon wedi’i gyfyngu i aelodau o staff Ymestyn yn Ehangach a rhennir gwybodaeth berthnasol gyda’r trydydd parti llogi sydd wedi’u contractio i ddarparu gweithgareddau.
Nesaf, mae’r wybodaeth am gyfranogwyr yn cael ei gwirio’n weledol a’i throsglwyddo o’r papur neu’r e- ffurflenni i gronfa ddata ar-lein ddiogel y gall staff Ymestyn yn Ehangach o fewn y bartneriaeth berthnasol ei chyrchu.
Bydd sefydliadau sy’n prosesu data personol ar ran Ymestyn yn Ehangach yn rhwymedig i Gytundeb Prosesu Data a fydd yn amlinellu’u rhwymedigaeth i brosesu data personol yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
At ddibenion monitro ac ymchwil, gellir rhannu data personol cyfranogwyr gyda’r prifysgolion a’r colegau partner.
Rhannir data gyda Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (UCAS) er mwyn galluogi olrhain taith addysg cyfranogwyr i mewn i Addysg Uwch yn ddienw dros yr hir dymor.
Bydd Ymestyn yn Ehangach yn cadw data cyfranogwyr yn unol ag Amserlen Gadw Ymestyn yn Ehangach.
Yn gryno: bydd copïau papur o wybodaeth yn cael eu dinistrio’n ddiogel ar ôl iddynt gael eu sganio i’r gronfa ddata electronig ddiogel. Cedwir cofnodion electronig ar gronfa ddata ddiogel ar-lein am gyfnod o hyd at 15 mlynedd ar ôl digwyddiad.
Bydd data a rennir / sy’n gysylltiedig â thrydydd parti at ddibenion ymchwil yn cael eu cadw mewn fformat dienw, sy’n golygu nad yw unigolion bellach yn adnabyddadwy.
Mae gennych yr hawl i gael mynediad at eich data personol, i wrthod prosesu’ch gwybodaeth bersonol, i gywiro, dileu, cyfyngu ar a mynd â’ch gwybodaeth bersonol. Nid yw rhai o’r hawliau hyn yn absoliwt a dim ond dan amodau penodol y maent yn berthnasol. Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar gael ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.
Mae gennych hawl i dynnu caniatâd yn ôl unrhyw bryd a gallwch wneud hynny drwy gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data neu Reolwr Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach ar gyfer y bartneriaeth yr ydych yn ymgysylltu â hi:
Ar gyfer De-ddwyrain Cymru, dylid gwneud unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau yn ysgrifenedig i Swyddog Diogelu Data Prifysgol De Cymru: –
Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol
Prifysgol De Cymru
Pontypridd
CF37 1DL
E-bost: dataprotection@southwales.ac.uk
Ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru, dylid gwneud unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau yn ysgrifenedig i Swyddog Diogelu Data Prifysgol Bangor:
Swyddog Diogelu Data
Swyddfa’r Is-Ganghellor
Gwasanaethau Corfforaethol
Ffordd y Coleg
Bangor
LL57 2DG
E-bost : info-compliance@bangor.ac.uk
Ar gyfer De-orllewin Cymru, dylid gwneud unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau yn ysgrifenedig i Swyddog Diogelu Data Prifysgol Abertawe:
Rheolwr Cydymffurfiaeth Gwybodaeth
Swyddfa’r Is-Ganghellor
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
E-bost: dataprotection@swansea.ac.uk
Mae deddfwriaeth diogelu data yn gofyn bod Ymestyn yn Ehangach yn cadw’ch gwybodaeth yn ddiogel. Golyga hynny y bydd eich cyfrinachedd yn cael ei barchu ac y bydd mesurau priodol yn cael eu cymryd i atal mynediad neu ddatgeliad anawdurdodedig. Aelodau o staff sydd angen mynediad at rannau perthnasol o’ch gwybodaeth bydd yr unig rai â chaniatâd i wneud hynny. Bydd unrhyw ddata personol a gedwir ar ffurf electronig yn destun cyfrinair a chyfyngiadau diogelwch eraill, tra bydd ffeiliau papur yn cael eu cadw mewn mannau diogel gyda mynediad rheoledig.
Os ydych yn anfodlon gyda sut y proseswyd eich data personol, gallwch gysylltu â’r brifysgol arweiniol berthnasol yn y lle cyntaf, gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a ddarparwyd uchod.
Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, mae gennych yr hawl i wneud cais yn uniongyrchol i’r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth,
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
www.ico.org.uk