Athrawon a Chynghorwyr

Ein cynnig i bobl ifanc

Ein cynnig I bobl ifanc ac ysgolion

Rydyn ni’n cynnig darpariaeth o ansawdd uchel i gefnogi pob dysgwr. Mae ein rhaglen flaengar a pharhaus sydd wedi’i gwerthuso yn cynnig dysgu unigryw, cyfleoedd i feithrin sgiliau a phrofiadau o addysg uwch. Mae’n galluogi dysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ac mae’n agor llwybrau i addysg bellach ac addysg uwch. Drwy gydol ein rhaglenni, bydd pobl ifanc yn cael cyfleoedd i wneud y canlynol:

  • meithrin gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o addysg uwch.
  • edrych arnyn nhw eu hunain, ystyried cyfleoedd, ac ehangu eu gorwelion.

Mae’r rhaglenni’n ategu darpariaeth ysgolion ac maen nhw’n cael eu cyflwyno mewn partneriaeth ag ysgolion, colegau addysg bellach, sefydliadau addysg uwch a phartneriaid allweddol eraill lle bo hynny’n briodol.

Beth yw ymestyn yn ehangach?

Nod rhaglen Ymestyn yn Ehangach yw cynyddu cyfraddau mynediad at addysg uwch, cyfraddau cadw a chyfraddau llwyddiant ymysg grwpiau a chymunedau blaenoriaeth yng Nghymru drwy godi dyheadau a sgiliau addysgol, a chreu cyfleoedd astudio a llwybrau dysgu arloesol i addysg uwch. Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy bum blaenoriaeth ein cynnig cenedlaethol:

1

Cefnogi cyfnodau pontio

i feithrin hyder, cynnydd, dysgu gydol oes a llwyddiant.

2

Cefnogi’r broses o godi dyheadau addysgol

i wella cymhelliant, cyfraddau cadw a chynnydd.

3

Gwella sgiliau addysgol

i alluogi dysgwyr i gyflawni eu potensial academaidd a bod yn barod ar gyfer addysg bellach a/neu addysg uwch.

4

Hyrwyddo sgiliau galwedigaethol a chyflogadwyedd

i annog uwchsgilio a chodi dyheadau gyrfa, gan gynnwys mynediad at brentisiaethau a’r proffesiynau.

5

Hyrwyddo cydraddoldeb cyfle a dulliau cynhwysol

ymysg pobl â phrofiad o ofal, gofalwyr a phobl ag anableddau.

Cymorth

Rydyn ni’n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar addysg bellach ac addysg uwch, hyfforddiant a chyflogadwyedd graddedigion, ac mae llawer o’n rhaglenni’n cyfrannu at chwe maes dysgu a phrofiad Cwricwlwm Cymru.

Gellir cyflawni pedwar diben Cwricwlwm Cymru: creadigrwydd ac arloesedd, meddwl yn feirniadol a datrys problemau, effeithiolrwydd personol a chynllunio a threfnu, drwy bum blaenoriaeth Cynnig Cenedlaethol Ymestyn yn Ehangach.

I gael gwybod mwy am y rhaglenni sy’n cael eu cynnig yn eich ardal, ewch i dudalennau’r Partneriaethau Rhanbarthol.

Gweithgareddau

MAE HOLL RAGLENNI YMESTYN YN EHANGACH YN:

  • Bodloni o leiaf un o flaenoriaethau Ymestyn yn Ehangach
  • Pontio
  • Dyheadau
  • Cyrhaeddiad
  • Cyflogadwyedd
  • Cynhwysiant
  • Cyd-fynd â’r ddarpariaeth leol ar draws y Cyfnodau Allweddol / Camau Cynnydd
  • Rhan o fodel ail-ymyrraeth ac mae ganddyn nhw ‘ddarpariaeth cam nesaf’ ar gyfer llwybrau dysgwyr i addysg uwch.
  • Meddu ar ddull cadarn a chyson o ran gwerthuso, effaith ac adrodd.

I gael gwybod mwy am y rhaglenni sy’n cael eu cynnig yn eich ardal, dewiswch eich cynulleidfa darged isod:

Adnoddau

Mae ein hadnoddau ar-lein yn cynnwys amrywiaeth eang o ddeunyddiau rhad ac am ddim ar gyfer ein holl gynulleidfaoedd targed