Uwchradd

Mae blwyddyn 7 i 11 yn gyfnod pwysig iawn yn eich bywyd. Gall y penderfyniadau rydych chi’n eu gwneud nawr helpu i siapio eich dyfodol. Mae’n amser gwych i ddechrau arbrofi gyda gwahanol syniadau ac opsiynau gyrfa. Gallwch ddechrau adeiladu dyfodol sy’n gwneud y gorau o’ch sgiliau a’ch diddordebau.

Mae’n debyg bod gennych chi lawer o gwestiynau ar hyn o bryd, ac rydyn ni yma i helpu. Gallwch ddefnyddio’r dudalen yma i’ch helpu i gael arweiniad a chyngor ar sut mae concro blwyddyn 7 i 11.

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau ysbrydoledig i ddysgwyr sydd wedi’u targedu mewn Ysgolion, Colegau a Chymunedau ledled De Orllewin Cymru. Dyma bwrpas ein rhaglenni:

  • Cefnogi pontio, dilyniant a chyrhaeddiad
  • Codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd a llwybrau Addysg Uwch
  • Datblygu llesiant a hyder dysgwyr
  • Cefnogi’r cwricwlwm newydd
  • Datblygu sgiliau newydd
Gogledd a Chanolbarth Cymru

Rydyn ni’n gweithio gydag ysgolion a theuluoedd blaenoriaeth i gefnogi dysgwyr gyda gweithgareddau priodol yn yr ysgol a’r tu allan i’r ysgol.

Dyma ein nodau:

  • Codi dyheadau, ymwybyddiaeth a gwytnwch dysgwyr drwy weithgareddau sy’n helpu myfyrwyr i ddod yn fwy uchelgeisiol a galluog.
  • Darparu gweithgareddau ymgysylltu sy’n helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau trawsgwricwlaidd mewn llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, a phontio unrhyw fylchau
  • Helpu’r dysgwyr i ddatblygu sgiliau Cymraeg a diwylliant Cymru.
  • Rydyn ni’n cefnogi dysgwyr i wneud cynnydd drwy ddarparu rhaglen amrywiol o weithgareddau a fydd yn eu cefnogi i symud ymlaen a chyflawni, gan roi hyder iddyn nhw wneud penderfyniadau gwybodus am addysg bellach, addysg uwch a thu hwnt.
De Ddwyrain Cymru

Mae partneriaeth De Ddwyrain Cymru, sy’n cynnwys timau Ymestyn yn Ehangach ym Mhrifysgol De Cymru, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn darparu rhaglen gyfun sy’n cyflwyno addysg uwch i ysgolion drwy’r cynnig Fi yn y Dyfodol ac mae’n cyflwyno pobl ifanc i addysg uwch drwy’r Rhaglen Llwybrau Llwyddiant.

Mae’r rhaglen yn darparu gweithdai rhyngweithiol a diddorol yn yr ysgol gydag amrywiaeth o weithgareddau a phrofiadau ar draws Cyfnodau Allweddol Dau, Tri a Phedwar.

Yr enw ar ein cynnig Fi yn y Dyfodol i flynyddoedd 8 a 9 yw Ymbaratoi: ar gyfer Gyrfa yn y Dyfodol a’r cynnig ar gyfer blynyddoedd 10 ac 11 yw Ymdrechu: Dyheadau Uwch.

Rydyn ni’n cynnal gweithdai diddorol a rhyngweithiol mewn ysgolion ac ar y campws.

I gael gwybod a yw eich ysgol yn cael ei thargedu gan Ymestyn yn Ehangach a’r hyn y gallwn ei gynnig, tarwch olwg ar ein manylion cyswllt isod: reachingwider@southwales.ac.uk

De Orllewin Cymru

Mae ein hamrywiaeth o raglenni ysbrydoledig a diddorol ar gael i ddisgyblion blwyddyn 7 i flwyddyn 11 sydd wedi’u targedu, ac maen nhw ar gael yn yr ysgol ac ar gampysau’r Prifysgolion a’r Colegau Addysg Bellach. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Clybiau Dydd Sadwrn mewn Celf a Pheirianneg
  • Gweithdai sgiliau astudio ac adolygu
  • Ymweliadau â phrifysgolion
  • Cyflwyniad i addysg uwch a sesiynau opsiynau a gyrfaoedd
  • Sesiynau i gael blas ar bynciau, a dosbarthiadau meistr
  • Heriau STEM
  • Gweithdai meithrin llesiant a hyder
  • Gweithdai cyfathrebu, datrys problemau, meddwl yn feirniadol ac adeiladu tîm

I gael gwybod a yw eich ysgol yn cael ei thargedu gan Ymestyn yn Ehangach a’r hyn y gallwn ei gynnig, tarwch olwg ar ein manylion cyswllt isod:‍
Rhif ffôn: 01792 602 128
reachingwider@swansea.ac.uk